Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Grant gwerth £900,030 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn sicrhau dyfodol adeilad eiconig Castell Margam

09 Hydref 2024

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi grant gwerth £900,030 i adeilad hanesyddol Castell Margam fel rhan o gyfanswm o £30m sy'n cael ei roi i 15 o brosiectau yn y DU er mwyn nodi 30 mlynedd ers i'r elusen gael ei sefydlu.

Castell Margam

Mae Ailddychmygu Castell Margam, Port Talbot yn cael yr arian fel arian cyfatebol ar gyfer gwaith cyfalaf y mae ei fawr angen er mwyn adfer yr adeilad, gan flaenoriaethu cynaliadwyedd a hygyrchedd, a hwyluso gwell ymgysylltu â'r gymuned drwy adeiladu mannau cyhoeddus defnydd cymysg.

Nod y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol yw sicrhau dyfodol adeilad eiconig y castell ei hun gan gyflwyno ffyrdd newydd o'i ddefnyddio er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd a mwy o incwm ar yr un pryd.

Bydd ystafelloedd nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers dros 50 mlynedd yn cael eu gwneud yn hygyrch i'r cyhoedd.

Caiff adeiledd ffisegol y castell ei achub drwy raglen atgyweirio a chadwraeth fawr, yna bydd y ffyrdd newydd o ddefnyddio'r castell nid yn unig yn gwasanaethu ein cymuned leol ond hefyd yn denu ymwelwyr o'r tu hwnt i'r ardal, a bydd caffi newydd yn agor hefyd.

Bydd gweithgareddau, arddangosfeydd, dehongliadau a rhaglen wirfoddoli helaeth i gyd yn cael eu dylunio ar y cyd â phartneriaid cyflawni addysgol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei hun.

Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Bydd y cyllid hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn chwyldroadol i'n treftadaeth a'n heconomi leol. Nid yn unig y bydd yn diogelu un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru, ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd newydd i'n cymunedau lleol fwynhau ein hanes cyfoethog, dysgu amdano ac ymfalchïo ynddo.

“Er bod Parc Gwledig Margam eisoes yn gyrchfan werthfawr ar gyfer twristiaeth, bydd adfer a gwella Castell Margam yn ei ddyrchafu'n dirnod a fydd yn denu mwy fyth o ymwelwyr o bob cwr o Dde Cymru a thu hwnt.

“Megis dechrau pennod newydd gyffrous i Gastell-nedd Port Talbot yw hyn wrth i ni greu swyddi, hybu twristiaeth a diogelu ein treftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rydyn ni'n ddiolchgar dros ben bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhannu'r weledigaeth honno.”

Ymhlith y prosiectau y dyfarnwyd cyllid iddynt ddydd Mercher 9 Hydref 2024 mae:

  • Crystal Palace Park, sef parc rhestredig Gradd II* 170 oed a 200 erw o faint sydd wedi'i leoli ar y croestoriad rhwng pump o fwrdeistrefi Llundain yn ne Llundain, sy'n cael £4,696,649. Ei nod yw gwrthdroi dirywiad y parc yn sgil hindreuliad.
  • Mae Power Plants yn Belfast, sef canolfan celfyddydau creadigol flaenllaw a menter economi gymdeithasol lwyddiannus, yn cael cyllid gwerth £255,172 ar gyfer prosiect i archwilio sut y gallwn gynhyrchu, defnyddio a rhoi gwerth ar bŵer er mwyn diogelu ac atgyweirio ein treftadaeth naturiol.
  • Mae Exmoor Pioneers: Past, Present and Future wedi cael £1,227,803 er mwyn meithrin calon Exmoor. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar gynnal y dirwedd, plannu coed, trefnu cloddfeydd cymunedol a diogelu treftadaeth fregus.
  • Mae Downs to the Sea: Recovery & Resilience in Wetland Habitats yn cael £1,693,187, ar gyfer prosiect a fydd yn adfer gwlyptiroedd a phyllau hanfodol, gan leihau effaith sychder a chefnogi bioamrywiaeth.

Dywedodd Eilish McGuinness, sef Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae'r prosiectau bendigedig hyn yn dangos ehangder syfrdanol y dreftadaeth y mae pobl yn ei thrysori ac am ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

“Diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol dros y 30 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweithio gyda'r rhai sy'n gofalu am dreftadaeth ac wedi helpu i drawsnewid tirwedd dreftadaeth y DU, gan gyfrannu at gymunedau a'r economi.

“Mae ein cyllid o fudd i bob rhan o'r ecosystem dreftadaeth, gan gynnwys ymwelwyr, gwirfoddolwyr a'r cymunedau o'i chwmpas, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth a ddaw yn y dyfodol wrth i ni weithio i wireddu ein gweledigaeth i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, eu gwarchod a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.”

 

                                 

hannwch hyn ar: