Datganiad I'r Wasg
Cabinet yn clywed fod ‘cynnydd da’ yn digwydd o ran Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Castell-nedd Port Talbot
04 Hydref 2024
Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn adroddiad cynnydd cadarnhaol ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) 2022-2032 yr awdurdod.
Mae'n ofynnol i gynghorau Cymru baratoi WESP gyda chynigion a thargedau i wella cynllunio, safonau ac addysgu'r Gymraeg ac adrodd ar gynnydd yn rheolaidd.
WESP Cyngor Castell-nedd Port Talbot 2022-32 yw conglfaen gweledigaeth y cyngor ar gyfer cynyddu a gwella’r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir, er mwyn galluogi pob dysgwr i ddatblygu’u sgiliau a defnyddio’r iaith yn hyderus yn feunyddiol.
Mae’n cyd-fynd â’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer y Gymraeg, sef cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Tynnwyd sylw yn yr adroddiad cynnydd, a gyflwynwyd i aelodau’r Cabinet yn eu cyfarfod ar yr ail o Hydref 2024, rai o’r llwyddiannau allweddol a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gangynnwys:
- Creu deunydd hyrwyddo addysgiadol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg – comisiynwyd chwe fideo proffesiynol, ‘Taith at Ddwy Iaith’, ac maen nhw’n barod i gael eu lansio, gyda phwyslais ar lwybrau drwy addysg cyfrwng Cymraeg o’r cyfnod cyn i blant gael eu geni hyd at addysg bellach. Mae’r deunydd yn hybu manteision dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyngor drwyddi draw.
- Gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gynyddu gweithlu ysgolion sy’n siarad Cymraeg – Ar hyn o bryd mae nifer o staff Ysgol Gyfun Cefn Saeson yn cymryd rhan mewn prosiect peilot newydd ar gyfer caffael iaith, ar ôl mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Cymru yn Nant Gwrtheyrn. Y nod yw parhau i weithio’n agos gyda’r Ganolfan Genedlaethol i ddatblygu cymuned sy’n siarad Cymraeg yn ysgolion cynradd clwstwr bwydo Cefn Saeson.
- Penodwyd Swyddog Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn llawn amser tan fis Awst 2025 (gyda’r nod o barhau y tu hwnt i 2025 yn unol â chyllid). Un o’i brif amcanion yw gweithio’n agos gyda’r clwstwr cyfrwng Cymraeg i daclo lleoedd dros ben yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.
- Datblygu llwybrau cyn-alwedigaethol 14-16 a galwedigaethol dwyieithog ar gyfer disgyblion – Bydd hyb sgiliau dwyieithog yn cael ei gwblhau ar safle Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur erbyn yr haf 2025. Yn unol â’r Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd, bydd yr hyb yn darparu cyrsiau dwyieithog wedi’u teilwra, gyda’r nod o wella presenoldeb ac ymgysylltiad disgyblion. Bydd yr hyb hwn yn cymryd ei le o fewn dull strategol y cyngor o daclo datblygu cynigion cwricwlwm, sail sgiliau a galwedigaethol dwyieithog ehangach i bobl ifanc ledled CnPT.
- Datblygu Darpariaeth Gofal Plant yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ac YGG Trebannws – Gyda’r nod o gynyddu niferoedd disgyblion yn adrannau cynradd yr ysgolion, gwnaed gwaith i ddatblygu, cynllunio a ffynonellu cyllid ar gyfer cyfleusterau gofal plant newydd all gynnig darpariaeth amgylchynol. Agorodd gofal plant YGG Trebannws gyda 13 enw eisoes ar y gofrestr. Disgwylir y bydd y ddarpariaeth newydd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera (Gogledd) yn agor cyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-2025. Awgryma adborth cadarnhaol gan rieni ac enwau a osodwyd ar y gofrestr yn barod, y bydd cynnydd sylweddol mewn niferoedd disgyblion fydd yn dechrau yn y ddwy ysgol dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, y Cynghorydd Nia Jenkins: “Rydyn ni’n falch o glywed am y cynnydd da sy’n digwydd. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan greiddiol o’r cynnig addysgu yng Nghastell-nedd Port Talbot, ble dylai pob plentyn elwa o’r cyfle i ddysgu, gwerthfawrogi a deall eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dolen: Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - Cyngor Castell-nedd Port Talbot (npt.gov.uk)