Hepgor gwe-lywio

Help gyda chostau byw: Cefnogaeth sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y gaeaf eleni

01 Tachwedd 2023

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ailbwysleisio’i ymrwymiad i gefnogi preswylwyr drwy’r argyfwng costau byw parhaus, gan sicrhau fod cymorth hanfodol ar gael i’r rheiny sy’n wynebu heriau ariannol dros y gaeaf eleni.

Help gyda chostau byw: Cefnogaeth sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y gaeaf eleni
Pin it!

Mae’r cyngor yn annog preswylwyr i fanteisio ar y gwasanaethau cefnogi a gynigir, gan gynnwys gwefan benodol a thaflen a anelir at leihau’r baich ar aelwydydd.

Mae gwefan benodol y cyngor, www.npt.gov.uk/CostOfLivingHelp yn gwasanaethu fel adnodd un-stop, gan roi arweiniad i breswylwyr ar sawl agwedd ar gymorth ariannol, gan gynnwys:

Hawlio Budd-daliadau: Cynorthwyo preswylwyr i hwylio drwy gymhlethdodau hawlio budd-daliadau, gan sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gefnogaeth sy’n ddyledus iddyn nhw.

Biliau’r Cartref: Darparu arweiniad ar reoli a lleihau biliau’r cartref, gan gynnwys manylion ar y tariff cymdeithasol (pecynnau band llydan a ffôn symudol rhatach)

Arian a Dyledion: cyfeirio pobl at gyngor ar reoli arian a thaclo dyled.

Costau Gofal Plant: Help i leihau straen ariannol gofal plant gan gynnwys cynlluniau fel y Cynnig Gofal Plant i Gymru, Dechrau’n Deg a gofal plant di-dreth.

Costau Addysg ac Ysgolion: Cymorth i leihau baich costau a gysylltir ag addysg, gan sicrhau nad oes mo’r un plentyn yn cael ei adael ar ôl oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Dod o hyd i Waith: Cysylltu ceiswyr swyddi â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.  

Gellir dod o hyd i fanylion am Gynllun Cronfa Galedi Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy’n werth £2 filiwn, ac a ddarperir ar y cyd â Chymru Gynnes, ar y wefan hefyd. Nod y cynllun yw cefnogi preswylwyr lleol sydd fwyaf mewn angen, er mwyn sicrhau fod eu cartrefi’n cael eu cynhesu’n fwy effeithlon, yn ogystal â mesurau i helpu gyda thalu biliau ynni. Gallai hyn gynnwys cael cefnogaeth gyda phethau fel biliau ynni, gwasanaethau i’ch boeler, dyledion biliau cyfleustodau, gwneud gwaith mân atgyweirio ar eich cartref, fel ffenestri sydd wedi torri, ac unrhyw fesurau bychain ar gyfer cael cartref clyd (e.e. blanced drydan).

Yn ogystal, mae’r wefan yn cynnwys cyfeiriadur o Lecynnau Cynnes, sy’n helpu preswylwyr i ddod o hyd i fannau neu adeiladau cyhoeddus ble gallan nhw fynd i gadw’n gynnes a diogel,, a ble maen nhw hefyd yn debygol o ddod o hyd i bethau fel Wi-fi am ddim, cyfleusterau tŷ bach, a lluniaeth ysgafn.

Mae’r daflen Help gyda Chostau Byw yn cynnwys yr holl wybodaeth a geir ar y wefan, ynghyd â rhifau ffôn uniongyrchol ar gyfer pob gwasanaethu cymorth i bobl sydd ddim ar lein.

Dywedodd y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: ‘Mae ein cymuned wrth galon popeth a wnawn.

“Gyda chymaint o bobl yn dal i gael trafferthion gyda chostau byw, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i sicrhau fod gan ein preswylwyr fynediad i’r gefnogaeth hanfodol sydd ei angen arnyn nhw.

“Hoffem annog pob preswylydd sy’n wynebu heriau ariannol i ddefnyddio’r gefnogaeth sydd ar gael, y gellir dod o hyd iddo ar ein tudalen we benodol ar gyfer Help gyda Chostau Byw.”

Ewch i www.npt.gov.uk/CostOfLivingHelp i ddysgu mwy. I bobl sydd ddim ar lein, gellir cael gafael ar daflenni mewn llyfrgelloedd lleol a chanolfannau dinesig ledled Castell-nedd Port Talbot.

Rhannu eich Adborth