Datganiad I'r Wasg
Gŵyl Castell-nedd Port Talbot yn rhoi teyrnged i Gymuned y Lluoedd Arfog
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
26 Hydref 2023
Mae digwyddiad poblogaidd Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot yn dychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot ym mis Hydref a Thachwedd.
Mae’r digwyddiad yn dechrau gyda Chyngerdd y Cofio yn Theatr y Dywysoges Frenhinol Port Talbot nos Wener 27 Hydref. Dan arweiniad Mal Pope, bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan y seren ganu o Gymru Sophie Evans, Côr Meibion Castell-nedd, Band Pibau Dinas Abertawe a Cerdd NPT Music. Daw’r cyngerdd i ben gyda Gwasanaeth Coffa, tawelwch a miloedd o betalau pabi coch yn disgyn.
Ddydd Sadwrn 28 Hydref, Canolfan Siopa Aberafan ym Mhort Talbot fydd lleoliad lansiad apêl pabi coch Lleng Brenhinol Prydeinig Port Talbot, cysegru’r Ardd Gofio, a diwrnod gwybodaeth. Daw’r dydd i ben gyda seremoni codi baner, ynghyd â stondinau gwybodaeth, ac Arddangosfa Oriel yr Arwyr Chwerwfelys – gan adrodd stori’r bobl o ardal Castell-nedd Port Talbot a gymerodd ran, ar faes y gad ac ar y ffrynt gartref, yn rhyfel 1914-19, a ddaeth i’w adnabod fel ‘Y Rhyfel Mawr’.
Bydd cerbydau milwrol yn y ganolfan siopa drwy gydol y dydd hefyd – lori Bedford Brydeinig o 1941 a Jeep milwrol.
Uchafbwynt arall fydd arddangos y ceisiadau ar gyfer Cystadleuaeth Celf Bod yn Blentyn Milwrol. Cynhaliwyd y gystadleuaeth, oedd yn agored i blant o deuluoedd milwrol yng Nghastell-nedd Port Talbot, ar y cyd â gŵyl eleni, a gofynnwyd i blant a phobl ifanc ddehongli ‘Bod yn Blentyn Milwrol’ mewn celf – boed hwnnw’n llun, yn gerdd neu’n stori fer. Cyflwynir gwobrau i enillwyr y gystadleuaeth yn ystod y dydd gan Faer Castell-nedd Port Talbot ac Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg.
Meddai Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams:
“Cynlluniwyd yr ŵyl flynyddol hon i dalu teyrnged i’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, y rhai a gwympodd, a’r cyn-filwyr o ddwy ryfel byd a rhyfeloedd eraill ledled y byd. Mae hefyd yn anrhydeddu’r rhai sydd wrthi’n gwasanaethu ar hyn o bryd, a’u teuluoedd, am y cyfraniad parhaus a wnânt gartref a thramor.
“Rydyn ni wrth ein bodd unwaith eto i gefnogi lansio apêl pabi coch Lleng Brenhinol Prydeinig Port Talbot.
“Mae hi hefyd yn dda gwybod fod cynifer o unigolion a sefydliadau’n cymryd rhan yn nigwyddiad eleni. Gobeithio y daw llawer o bobl draw i’r digwyddiadau i gefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog a’r apêl babi coch.”
Yn ogystal â’r cyngerdd a’r diwrnod gwybodaeth, bydd Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar thema’r cofio dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys sesiynau crefft, arddangosfeydd a sgyrsiau.
Bydd digwyddiadau’r ŵyl yn ychwanegol at orymdeithiau a digwyddiadau cymunedol sy’n cael eu cynnal gan gyn-filwyr, eu teuluoedd a chefnogwyr mewn cymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot yn y cyfnod sy’n arwain at Sul y Cofio.
I gael mwy o wybodaeth a rhestr o beth sy’n digwydd, ewch i www.npt.gov.uk/GLA
- Diwedd -