Datganiad I'r Wasg
Newyddion yn torri! Ychwanegu cân eiconig i arlwy seren y West End
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
20 Hydref 2023
Mae’r seren o gantores y West End Sophie Evans wedi ychwanegu ‘We'll Meet Again’ i’w repertoire, a bydd yn rhoi’r perfformiad cyhoeddus cyntaf erioed o’r gân yn ddiweddarach ym mis Hydref ym Mhort Talbot.
Canwyd y gân yn wreiddiol gan ‘anwylyn y lluoedd arfog’, y diweddar Fonesig Vera Lynn, yr oedd ei fersiwn hi ohoni yn 1942 yn boblogaidd iawn, ac yn un o’r recordiadau a chwaraewyd amlaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae Sophie wedi dysgu’r gân yn arbennig ar gyfer Cyngerdd y Cofio, Maer Castell-nedd Port Talbot ar nos Wener 27 Hydref.
Esboniodd Sophie: “Braint oedd derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y Cyngerdd i Gofio ac ro’n i eisiau gwneud rhywbeth arbennig i dalu teyrnged i aelodau cymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw.
“Mae ‘'We'll Meet Again’ yn gân mor hardd ac eiconig, ac rwyf wrth fy modd o fod yn ei chanu’n gyhoeddus am y tro cyntaf yng Nghymru.”
Bydd rhestr berfformio Sophie ar gyfer y cyngerdd hefyd yn cynnwys ‘Imagine’, ‘Get Happy’, ‘I Dreamed a Dream’, ‘As Long as he Needs Me’, Make You Feel My Love’ ac ‘Over the Rainbow’.
Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams: “Mae Sophie yn artist dawnus a hynod boblogaidd, ac mae’n newyddion cyffrous iawn i feddwl taw cynulleidfa ein Cyngerdd Coffa ni fydd y cyntaf i’w chlywed hi’n canu ‘We'll Meet Again’.
“Mwy nag wyth deg mlynedd ar ôl recordiad gwreiddiol y Fonesig Vera Lynn, mae’r gân yn dal i daro tant gyda chynifer o bobl.
“Mae’r cyngerdd, gyda’i lu o artistiaid rhagorol, yn addo bod yn noson wych i anrhydeddu ein Cymuned Lluoedd Arfog.”
Bydd y noson, dan arweiniad Mal Pope, yn cynnwys perfformiadau gan Fand Gorymdeithio Milwrol Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol, Band Ieuenctid NPT Cerdd, Côr Meibion Castell-nedd a Band Pibau Dinas Abertawe.
Bydd yn dod i ben gyda seinio’r Caniad Olaf a gollwng miloedd o betalau pabi coch, symbol swyddogol y Cofio.
Lleoliad y cyngerdd yw Theatr y Dywysoges Frenhinol, nos Wener 27 Hydref (7pm). Mae tocynnau’n £10 yr un i oedolion neu £8 pris gostyngol (dan 16, dros 60 a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog) a gellir eu prynu oddi wrth Theatr y Dywysoges Frenhinol neu ar lein yma: www.npttheatres.co.uk/princessroyal
Mae’r cyngerdd yn rhan o ŵyl Lluoedd arfog Maer Castell-nedd Port Talbot, sydd hefyd yn cynnwys diwrnod gwybodaeth yng Nghanolfan Siopa Aberafan, digwyddiadau mewn Llyfrgelloedd, cystadleuaeth gelf i blant o deuluoedd milwrol, a Gorymdeithiau Cofio. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.npt.gov.uk/AFF