Datganiad I'r Wasg
Cyngor yn cyhoeddi pwy fu’n llwyddiannus wrth dderbyn Cronfa Dreftadaeth Gymunedol newydd CnPT
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
19 Hydref 2023
Mae ysgol, capel, ymddiriedolaeth gymunedol a llyfrgell gymunedol ymysg ymgeiswyr llwyddiannus yn y cylch diweddaraf o gyllid i’w roi gan Gronfa Dreftadaeth Gymunedol newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r gronfa’n rhan o brosiect Treftadaeth CnPT – a fu’n bosib o ganlyniad i rodd hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – y gall elusennau a sefydliadau nid-er-elw, ysgolion, grwpiau treftadaeth, grwpiau cymunedol, Cynghorau Tref ac Ardaloedd Gweinidogaethu (grwpiau eglwysig) wneud cais iddi.
Mae’n ei helpu i ymgysylltu â phreswylwyr lleol a darparu prosiectau sy’n seiliedig ar dreftadaeth leol. Mae Treftadaeth CnPT hefyd wedi darparu hyfforddiant a digwyddiadau i gynorthwyo grwpiau treftadaeth i ddod yn fwy cynaliadwy at y dyfodol.
Yr ymgeiswyr llwyddiannus yn y cylch diweddaraf o gyllid yw Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn, Ymddiriedolaeth Llan-giwg, Capel Saron, Canolfan Maerdy, Cyfeillion Gwaith Haearn Mynachlog Nedd a Llyfrgell Gymunedol Lolfa GCG.
Bydd y cymorth grant yn gweld Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn yn creu gwaith celf ac arddangosfa yn seiliedig ar safleoedd treftadaeth lleol, bydd Ymddiriedolaeth Llan-giwg yn hwyluso cyfres o sgyrsiau am dreftadaeth, celfyddydau, diwylliant, llesiant a natur, a bydd hefyd yn gwella hygyrchedd i Eglwys Ciwg Sant, tra bydd Capel Saron yn gweithio gyda phobl leol ac artist i greu ffenestr wydr lliw i’w gosod yn y capel.
Bydd Canolfan Maerdy’n defnyddio’r arian i ymgymryd â phrosiect dweud stori digidol a datblygu archif dreftadaeth, a bydd Cyfeillion Gwaith Haearn Mynachlog Nedd yn cynnwys y gymuned mewn cloddfa archeolegol.
I gloi, bydd Llyfrgell Gymunedol Lolfa GCG yn defnyddio’i arian i greu taflen sy’n cynnwys gwybodaeth a mapiau i rannu gwybodaeth am dreftadaeth leol.
Fe wnaeth cylch cyntaf y cyllid, a gaeodd ym mis Ionawr, alluogi Canolfan Dreftadaeth ac Ymwelwyr Pontardawe i sefydlu prosiect o’r enw Yn Ôl Troed David Thomas – Tad y Diwydiant Haearn Glo Caled Americanaidd. Bydd y prosiect hwn yn gweld arddangosfa deithiol yn symud o gwmpas llyfrgelloedd ac ysgolion ardal Castell-nedd Port Talbot.
Derbyniodd Cyngor Tref Pontardawe arian i ddod â hanes a threftadaeth Pontardawe’n fyw drwy gyfrwng prosiect celf stryd.
Bydd ail gylch o gyllid, a gaeodd ar ddiwedd mis Mawrth, yn gweld Ysgol Gynradd Awel y Môr yn ymgymryd â phrosiect hanes llafar a llwybr treftadaeth, mae wedi galluogi Ardal Weinidogaethu Bro Noddfa Newydd i weithio gydag arbenigwr mewn gwydr lliw i ganfod ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect aml-oedran celf a chrefft, a bydd grŵp Hynafiaethwyr Castell-nedd yn cyhoeddi llyfr i nodi’u canmlwyddiant ac yn creu cyfres o ddigwyddiadau allgyrraedd cymunedol gan gynnwys arddangosfa a gweithdy.
Bydd Grŵp Camlas Tŷ Banc yn defnyddio’i gyllid i ddatblygu prosiect i wella arwyddion treftadaeth a bioamrywiaeth ar lan y gamlas mewn dull rhyngweithiol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am alluogi gwireddu prosiect Treftadaeth CnPT a’r Gronfa Dreftadaeth Gymunedol.
‘Mae’n wych gweld cynifer o brosiectau cymunedol yn dod i oed diolch i gronfa dreftadaeth newydd y cyngor – mae’n rhan o nod cyffredinol y cyngor a gynhwysir yn ei Gynllun Rheoli Cyrchfan, ei Strategaeth Ddiwylliant a’r Strategaeth Dreftadaeth Ddrafft i gadw a dathlu ein diwylliant a’n treftadaeth gyfoethog.”