Datganiad I'r Wasg
Clymblaid yr Enfys Castell-nedd Port Talbot yn mynd o nerth i nerth er gwaethaf amodau heriol
Mae'r erthygl hon yn fwy na 18 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
25 Mai 2023
Dywed Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, ei fod yn teimlo’n ‘ddiymhongar iawn’ o gael ei benodi i arwain Clymblaid yr Enfys, sy’n rheoli’r awdurdod am flwyddyn arall, yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol (AGM) y cyngor ddydd Mercher 24 Mai, 2023.
Dywed Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, ei fod yn teimlo’n ‘ddiymhongar iawn’ o gael ei benodi i arwain Clymblaid yr Enfys, sy’n rheoli’r awdurdod am flwyddyn arall, yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol (AGM) y cyngor ddydd Mercher 24 Mai, 2023.
Dywedodd fod y cyngor wedi cymryd camau enfawr ymlaen, bron i flwyddyn ar ôl ffurfio’r glymblaid, gan ennill y gystadleuaeth – ar y cyd â’i phartneriaid, Cyngor Sir Penfro, Associated British Ports a Phorthladd Aberdaugleddau – i sicrhau lleoliad un o ddau Borthladd Rhydd newydd Cymru, gyda’r rhagolygon o greu 16,000 o swyddi gwyrdd o ansawdd uchel ar gyfer de orllewin Cymru.
Mae cabinet y cyngor eisoes wedi cymeradwyo camau nesaf prosiect y Porthladd Rhydd, sy’n cynnwys creu cwmni i weinyddu’r Porthladd Rhydd a gosod trefniadau i wneud penderfyniadau ar y gweill ar gyfer buddsoddi arian cyhoeddus – disgwylir y bydd y Porthladd rhydd yn cynhyrchu biliynau o bunnoedd o fuddsoddi newydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hunt fod dau brosiect cyffrous arall, gwerth miliynau lawer, fydd y creu swyddi – sef safle profi rheilffyrdd GCRE yn Onllwyn a chyrchfan antur Wildfox Cwm Afan – hefyd yn symud ymlaen yn nerthol.
Mae’r cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddenu dyraniad gwerth miliynau lawer o bunnoedd o Gronfa Codi’r Gwastad hefyd, er mwyn troi Cwm Nedd yn atyniad twristiaeth a threftadaeth o bwys.
Ac yn yr AGM, daeth Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol a Gwyrddion y cyngor, dan arweiniad aelod Gorllewin Coed-ffranc, y Cynghorydd Helen Ceri Clarke, yn aelodau llawn o Glymblaid yr Enfys, ar ôl bod yn gefnogwyr ar sail hyder a chyflenwi yn unig cyn hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Hunt ar ôl yr AGM: “Rwy’n teimlo’n ddiymhongar iawn o gael derbyn arweinyddiaeth y cyngor ar gyfer 2023/24 ac mae ein Clymblaid yr Enfys yn croesawu’r Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol a Gwyrddion fel aelodau llawn.
“Rydyn ni wedi cael blwyddyn gyntaf eithriadol o brysur, ac er i ni gael llawer o lwyddiannau, mae hyn wedi cael ei gyflawni yn erbyn cefndir o heriau digynsail gan gynnwys yr argyfwng costau byw ac adfer ar ôl Covid-19. Byddwn ni’n parhau i gynnal ein preswylwyr mwyaf bregus wrth i ni barhau, gyda’n gilydd, i ateb yr heriau ariannol, ac eraill, y mae pob cyngor yn ei wynebu.
“Rydyn ni wedi amlinellu sawl blaenoriaeth o’r dechrau’n deg, gan gynnwys ‘glanhau a glasu’ ein trefi, ein cymoedd a’n pentrefi, a chlustnodwyd £4.2m i beri i hynny ddigwydd. Mae gwaith yn parhau.
“Pan ddaw hi’n fater o helpu’r mwyaf bregus, rwy’n falch o glywed bod cynllun lliniaru caledi’r cyngor, sy’n cael ei weithredu gyda’r partneriaid Cymru Gynnes, bellach wedi helpu 586 o aelwydydd ledled y fwrdeistref sirol.
“Mae cefnogaeth wedi cynnwys talu dyledion tanwydd yn uniongyrchol i’r darparwyr ynni, darparu nwyddau gwyn, cefnogaeth gyda dyledion d?r a darparu eitemau bychain fel blancedi trydan.
“Mae arian a ddefnyddiwyd i helpu preswylwyr dan y cynllun bellach wedi cyrraedd cyfanswm o £188,000 a bydd y ddwy filiwn o bunnoedd a neilltuwyd ar gyfer y cynllun yn ei alluogi i barhau am hyd at 24 mis.
“I gloi, rwy’n falch o ddweud fy mod i, yn ystod yr AGM,, wedi gwisgo gyda balchder y tei a roddwyd i mi gan dîm rygbi Ysgolion Castell-nedd Dan 11 a enillodd Bowlen DC Thomas, sy’n wobr o bwys, yn Stadiwm Principality Caerdydd – roedd hynny’n golygu’r byd i mi.”
Yn yr AGM, ble ail-benodwyd y Cynghorydd Alun Llewelyn yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, estynnodd y Cyng Hunt ei longyfarchion i ddarpar Faer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams a’r Dirprwy Faer, y Cynghorydd Matthew Crowley. Mynegodd y Cyng Hunt ei ddiolch hefyd am yr holl waith a wnaed gan y Maer ymadawol, y Cynghorydd Robert Wood, yn ystod ei flwyddyn ddinesig.
Yn y cyfarfod, esboniodd y Cynghorydd Martyn Peters ei fod yn camu’n ôl o’i swydd fel Aelod Cabinet dros Adfywio Economaidd a Chymunedol oherwydd cynnydd mewn ymrwymiadau teuluol a llwyth gwaith, gan ddweud: “Rwyf wedi bod yn falch o chwarae rhan flaenllaw ym maniffesto Clymblaid yr Enfys ac mewn llunio polisi.” Bydd yn parhau i fod yn gynghorydd, ac mae’n dal i fod yn ymrwymedig i’r glymblaid fel arweinydd gr?p Annibynnol Dyffryn.
Bydd y Cynghorydd Cen Phillips yn cymryd sedd Cabinet y Cynghorydd Peters, gyda’r teitl newydd Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, tra bydd yr Aelod Cabinet presennol y Cynghorydd Jeremy Hurley yn mabwysiadu teitl newydd Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Alun Llewelyn: “Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r Cyngor am fy ailethol yn Ddirprwy Arweinydd.
“Rwy'n gwerthfawrogi'r hyder sydd wedi cael ei ddangos ynom fel Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Clymblaid yr Enfys, wrth i ni baratoi i weithio am flwyddyn arall ar ran dinasyddion a chymunedau Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi wynebu llawer o heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hynny dan amgylchiadau ariannol ac economaidd anodd dros ben, ond rydym wedi gweithio i gynnal a gwella ein gwasanaethau a chefnogi ein gweithlu.
“Diolch yn fawr i'r swyddogion a'r staff am eich gwaith caled a chydwybodol, i'n cydweithwyr yn y Cabinet, ac i holl aelodau'r Cyngor am eich diwydrwydd wrth graffu ar waith yr awdurdod lleol.”