Arweinydd Cyngor yn croesawu cynnydd ar safle profi rheilffyrdd o safon fyd-eang gwerth £250m yn Onllwyn
Arweinydd Cyngor yn croesawu cynnydd ar safle profi rheilffyrdd o safon fyd-eang gwerth £250m yn Onllwyn
Mae'r erthygl hon yn fwy na 2 mlwydd oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
28 Hydref 2022
Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Stephen Hunt, wedi croesawu’r cynnydd sydd i’w weld yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) gwerth £250m pan ymwelodd â’r safle gyda Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru Vaughan Gething.
Wrth siarad yn y safle ddydd Iau, 27 Hydref, meddai’r Cyngh Hunt: “Dyma brosiect trawsnewidiol i’r ardal hon ac rwyf wrth fy modd â’r cynnydd sydd eisoes wedi digwydd, gyda phenodi uwch swyddogion, caffael fflyd o drenau prawf a gwaith tir eisoes wedi dechrau.
“Bydd yn rhoi’r rhan hon o Gymru ar y map fel y wlad i ddod iddi ar gyfer gweithgynhyrchwyr trenau, gweithredwyr rhwydweithiau, y diwydiant trenau ehangach ac academyddion o’r DU ac yn rhyngwladol, i ymchwilio, profi a datblygu’r technolegau diweddaraf ym maes trafnidiaeth werdd ar gyfer diwydiant trenau’r byd.
“Bydd hefyd yn creu swyddi a gall fod yn gatalydd ar gyfer cyfleoedd newydd pellach, gan ddod â mwy o swyddi a buddsoddiadau o ansawdd i gymunedau.”
Lleolir y safle ar hen waith glo brig Nant Helen a Golchfa Onllwyn yng Nghastell-nedd Port Talbot gan ymestyn i sir gyfagos Powys; dros 550 hectar bydd yn cynnwys dwy ddolen brofi, un yn drac trenau cyflym 6.9km a drydaneiddiwyd gydag uchafswm cyflymder o 177km/a a’r llall yn drac profi 4km 65km/a.
Ymysg cyfleusterau eraill bydd amgylchedd profi dau blatfform, cyfleusterau storio a chynnal a chadw trenau, swyddfeydd gweithredu a rheoli, llety i staff, cyfleusterau staff siyntio a chysylltiadau â’r brif linell drenau gyfagos.
Rhagwelir y bydd y safle ehangach yn cynnwys cyfleusterau addysg, hyfforddiant, ymwelwyr a chynadledda.
Rhoddodd aelodau pwyllgorau cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys gymeradwyaeth i’r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r DU y llynedd.
Datblygodd Llywodraeth Cymru’r syniad o’r gwreiddyn gan weithio gydag arbenigwyr o bob cwr o’r diwydiant rheilffyrdd yn fyd-eang i ddod â’r gwaith i’r pwynt hwn.
Mae’r GCRE yn gwahodd darpar bartneriaid a chyflenwyr cadwyn cyflenwi i fynychu digwyddiad ‘cwrdd â’r prynwr’ ddydd Mercher 2 Tachwedd 2022 yng Nghaerdydd.
Dyma gyfle i ddysgu mwy am y cytundebau all fod yn werth tua £250 miliwn. Cyhoeddwyd manylion y digwyddiad ar borth caffael Llywodraeth Cymru