Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymgynghoriadau

Darllenwch ein datganiad preifatrwydd

Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.

Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.

Ailgyflwyno prawf modd ar gyfer gwaith bach a chanolig

Mae'r cynnig yn nodi'r bwriad i ailgyflwyno'r Prawf Modd ar gyfer grantiau bach a chanolig i sicrhau bod cyllideb y Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl sydd ar gael yn cael ei gwario yn y ffordd orau ac yn helpu'r rheini sydd â'r angen mwyaf.

Llawrlwythiadau

  • Ailgyflwyno prawf modd ar gyfer gwaith bach a chanolig (DOCX 142 KB)

Dyddiad cau: 22 Rhagfyr

Gwasanaethau llety brys trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) gael barn y gymuned leol ar sut y dylid gweithredu llety brys (e.e. llochesi) ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig yn y dyfodol.

Llawrlwythiadau

  • Papur ymgynghori - gwasanaethau llety brys VAWDASV (DOCX 31 KB)

Dyddiad cau: 2 Ionawr 2025

Arolwg Gwasanaeth Llyfrgell Castell-nedd Port Talbot 2024

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Castell-nedd Port Talbot yn y broses o ddatblygu strategaeth bum mlynedd newydd. Ein nod yw cynhyrchu strategaeth sy'n diwallu anghenion pobl Castell-nedd Port Talbot orau a'n bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth llyfrgell statudol. Bydd eich ymatebion yn yr arolwg hwn yn ein helpu i wneud hyn a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed Arolwg Gwasanaeth Llyfrgell CNPT 2024

Ymgynghoriad arfarniad opsiynau Camlesi Tennant a Chastell-nedd

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, diolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, i ymgymryd ag arfarniad opsiynau er mwyn edrych ar ffyrdd o adfer ac adfywio camlesi Tennant a Chastell-nedd er budd pobl, lleoedd a’r amgylchedd.

Bydd eich syniadau yn ein helpu i ychwanegu eglurdeb at y prif opsiynau y mae ein Hymgynghorwyr ar gyfer yr Astudiaeth Ddichonoldeb, sef AtkinsRéalis, yn eu harchwilio ac, efallai, yn cynnig rhywbeth hollol newydd.

Dyddiad cau: 8 Ionawr 2025

Ymgynghoriadau’r Amgylchedd

Ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a