Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Strategaeth Tai a Digartrefedd

Strategaeth Tai Lleol 2015-20

Mae'r strategaeth hon yn amlinellu'n gweledigaeth ar gyfer ymdrin ag anghenion tai dinasyddion:

"Bydd tai yng Nghastell-nedd Port Talbot yn briodol, yn fforddiadwy ac o safon mewn cymunedau cynaliadwy, gan gynnig dewisiadau a chefnogaeth i bobl os bydd eu hangen arnynt".

Mae'r strategaeth yn amlinellu'r angen am dai sy'n fwy fforddiadwy ac yn ceisio cynyddu cyflenwad a hygyrchedd yn y lleoedd cywir.Mae'r strategaeth hefyd yn ceisio gwella ansawdd y stoc dai (tai cymdeithasol a phreifat) a sicrhau bod cefnogaeth dai ar gael i'r rhai y mae ei hangen arnynt.

Adolygiad Digartrefedd 2018

Comisiynodd y cyngor adolygiad annibynnol o sut mae'n ymateb i bobl sy'n wynebu digartrefedd er mwyn i ni weld sut gallwn adeiladu ar ein harfer presennol a datblygu ffyrdd newydd o weithio. Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys gweithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer newid. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ei wasanaethau tai, roedd ef hefyd yn archwilio cyd-destun y gwasanaethau o ran polisïau ac a yw'r ymateb i ddigartrefedd yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol ehangach yr ardal.

Strategaeth Digartrefedd 2018-22

Mae'r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn bwriadu gweithredu ar ganlyniadau'r adolygiad uchod fel ein bod yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion y rheiny sy'n cael eu bygwth â digartrefedd neu sy'n ddigartref, dros y pedair blynedd nesaf a thu hwnt. Y nod cyffredinol yw gweithredu ymagwedd a fydd yn atal digartrefedd lle bynnag y bo modd ac yn cefnogi'r aelwyd yn effeithiol pan fydd hyn yn digwydd. I'r perwyl hwn, rydym yn cynnig symud y ffocws o ymatebion brys a chyflawni ein dyletswyddau o ran digartrefedd i aelwydydd mewn argyfwng drwy archwilio'r canlynol:

  • Mwy o gefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn atal digartrefedd cyn iddo ddatblygu'n argyfwng;
  • cefnogaeth ac opsiynau llety sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth sydd wedi bod yn ddigartref fwy nag unwaith ac mae angen amrywiaeth o wasanaethau arnynt; a
  • helpu pobl i gael llety parhaol a lleihau'r angen am lety dros dro.

Asesiad o Farchnad Dai Ranbarthol 2020

Cydweithiodd yr Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Canolbarth a De-orllewin Cymru canlynol i ddiweddaru eu hasesiadau o'r farchnad dai. Comisiynwyd Gwasanaethau Ymchwil Barn i lunio'r ddogfen hon, gan gyflwyno data wedi'i fodelu'n gadarn a sylfaen dystiolaeth gyson ar y farchnad dai ar draws rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru. Mae'r ddogfen hon, wedi'i hategu gan asesiadau priodol a gynhaliwyd ar lefel awdurdod unigol, yn gweithredu fel Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA):

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
  • Cyngor Sir Gâr ;
  • Cyngor Sir Ceredigion ;
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot ;
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro;
  • Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys a
  • Dinas a Sir Abertawe.

Crynodeb o Farchnad Dai Leol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2020

Comisiynwyd Gwasanaethau Ymchwil Barn gan awdurdodau lleol Canolbarth a De-orllewin Cymru i gynnal asesiad traws-ffiniol o anghenion tai yn unol ag arfer gorau. Mae'r ddogfen hon yn ddadansoddiad is-ardal ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a dylid ei darllen ochr yn ochr â'r adroddiad rhanbarthol ehangach sy'n cyd-fynd â hi.

Prosbectws Grant Tai Cymdeithasol 2021

Dywed ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2019-21 sef 'Llunio CNPT', ein bod am i bob person fyw mewn llety addas sy'n diwallu ei anghenion. Nid yw pawb mewn sefyllfa i sicrhau hyn ei hun drwy brynu ei gartref ei hun neu rentu un gan landlord preifat. Mae'r prosbectws hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu defnyddio'n rheolaeth o Raglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru i ddarparu cynifer o dai fforddiadwy â phosib i'r aelwydydd hynny.

Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

Cafodd y Cyngor gadarnhad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau a Phlant, ar 8 Mawrth 2024, fod astudiaeth Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALIST) 2022 wedi cael ei chymeradwyo.

Bydd Astudiaeth 2022 yn awr yn disodli’r astudiaeth flaenorol a gynhaliwyd yn 2016.

Yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) newydd, er mwyn asesu anghenion llety’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr i’r dyfodol. Mae'r ALIST 2022 yn nodi'r angen darpariaeth ychwanegol o ran safleoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer lleiniau preswyl parhaol a/neu leiniau dros dro yn y tymor byr a hyd at 2036.

Mae fersiwn derfynol y ALIST nesaf i gael ei chwblhau a’i chyhoeddi erbyn 24 Chwefror 2027.

Bydd ALIST 2022 ar gael i’w lawrlwytho yma a'r dudalen we Polisi Cynllunio.

  • Polisi Codi Tâl Llety Dros Dro (PDF 767 KB)
  • Polisi atal ac adennill ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth (PDF 821 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau