Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Lesio Cymru

Cynllun lesio a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan y Cyngor yw Cynllun Lesio Cymru. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid yn y sector rhentu preifat lesio eu heiddo i ni am warant o incwm rhent misol am gyfnod a all fod rhwng 5 ac 20 mlynedd.

Nodau'r cynllun

Nod y cynllun yw:

  • galluogi mwy o bobl i rentu'n breifat yng Nghymru
  • gwneud rentu'n breifat yn opsiwn mwy fforddiadwy

Bydd y cynllun:

  • gwella’r cyfle i bobl gael cartrefi yn y sector rhentu preifat
  • sicrhau diogelwch llety tymor hwy
  • cynnig llety fforddiadwy
  • cynnig cymorth
  • gwella safonau
  • cyfrannu at leihau digartrefedd
  • cynnig sicrwydd i denantiaid
  • cynnig hyder i landlordiaid

Manteision ar gyfer tenantiaid

Bydd y tenantiaid sy’n byw yn yr eiddo hyn yn elwa ar y canlynol:

  • cyfle i gael llety sefydlog yn y sector rhentu preifat ar gyfraddau lwfans tai lleol
  • cymorth tebyg i’r hyn a ddarperir gan landlordiaid tai cymdeithasol mewn perthynas â’r denantiaeth

Manteision ar gyfer perchnogion eiddo

Bydd perchnogion eiddo sy'n lesio eu heiddo i ni'n elwa ar y canlynol

  • lesoedd am gyfnodau o 5-20 mlynedd
  • taliadau rhent gwarantedig am hyd y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol
  • cynnig o hyd at £5000, fel grant, i wella'r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o'r safon y cytunwyd arni, a/neu gynyddu sgôr yr EPC i lefel C.
  • gallai’r cyllid hwn gael ei estyn i hyd at £25,000 ar gyfer eiddo gwag
  • atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo a wneir gan denantiaid dan y cynllun, yn amodol ar draul resymol
  • gwarant o gymorth priodol i denantiaid, drwy gydol oes y les

Cofrestru eich diddordeb

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun neu cofrestru eich diddordeb, e-bostiwch: sociallettings@npt.gov.uk