Y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol
Y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol
Mae'r Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy eu helpu i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau addas yn eu cymuned leol a'u mynychu. Nod y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol yw:
- Annog pobl i adeiladu cyfeillgarwch newydd
- Cynnwys pobl mewn grwpiau a gweithgareddau cymunedol
- Hybu annibyniaeth a lles
- Ennill sgiliau newydd
Cyn trefnu cefnogaeth, mae'r gwasanaeth yn ystyried diddordebau person a'r hyn y mae am ei gyflawni. Yna, bydd y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio gyda'r person i ddod o hyd i weithgareddau addas a threfnu cefnogaeth lle bo'i hangen.
Mae'r astudiaethau achos isod yn disgrifio sut y gall y gwasanaeth gefnogi pobl trwy weithgareddau megis dysgu hobïau a diddordebau newydd, hyfforddiant teithio a chadw'n brysur.
Astudiaethau achos
Meini prawf cymhwysedd
Mae'r Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol ar gael i'r sawl yr aseswyd bod ganddynt anghenion gofal cymdeithasol.
I gael gwybod a ydych chi'n gymwys am y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol, cysylltwch â Phorth CNPT:
- Ffôn: 01792 812825
- E-bost: (Enw, Cyfeiriad, Dyddiad Geni, Gofyniadau Cymorth)
Talu am wasanaethau
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
Gwybodaeth bellach:
I gael mwy o wybodaeth am ein Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol, cysylltwch:
- Ffôn: 01792 812825
- E-bost
- Oriau agor: 8.30am - 4.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener