Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cosbau gorfodi gwastraff

Hysbysiadau o Gosb Benodol

Trosedd Gweithred Swm y gosb os caiff ei dalu o fewn 10 niwrnod Swm Cosb Llawn Uchafswm y Gosb os bydd erlyniad yn arwain at gollfarn
Gollwng sbwriel Adran 87, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 £75 £100 £2,500
Methu cydymffurfio â hysbysiad rheoli sbwriel stryd Adran 94, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 £60 £100 £2,500
Methu cydymffurfio â hysbysiad clirio sbwriel Adran 92c/94a, Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 £60 £100 £2,500
Methu cyflwyno dogfennau gwastraff Adran 34, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 £180 £300 £5,000
Methu cyflwyno caniatâd i gludo gwastraff Deddf Rheoli Llygredd (Diwygiad) 1989 £180 £300 £5,000
Methu cydymffurfio â hysbysiad cynhwysydd gwastraff Adran 46/47, Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 £60 £100 £1,000
Hysbysiad o Gosb Benodol am faw cŵn Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 £75 £100 £1,000
Methu cydymffurfio â Gorchymyn Cŵn ar Dennyn Gorchymyn Cŵn ar Dennyn (Promenâd ar Draeth Aberafan) 2013, adran 3 £50 £75 £1,000
Methu cydymffurfio â Gorchymyn Gwahardd Cŵn Adran 3, Gorchymyn Gwahardd Cŵn (Promenâd ar Draeth Aberafan) 2013 £50 £75 £1,000
Gadael dau gerbyd neu fwy sydd ar werth ar y ffordd Adran 3-9, Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 £60 £100 £5,000
Gadael cerbyd Adran 2-4, Deddf Amwynder Gwaredu Sbwriel 1978 £120 £200 £2,500
Tipio Anghyfreithlon Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 Adrannau 33(1)(a) a 33ZB £280 £400

Mae’r cosbau am y drosedd yn cynwys carchariad am uchafswm o 12 mis am gollfarn ddiannod a/neu ddirwy ddiderfyn am gollfarn ar dditiad, i garchariad am uchafswm o bum mlynedd neu ddirwy ddiderfyn neu’r ddau

Beidio â chydymffurfio â'ch dyletswydd mewn perthynas â throsglwyddo gwastraff cartref

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 Adrannau 34(2A) a 34ZB £150 £300 Mae dirwy ddiderfyn ar gyfer y drosedd

Troseddau

Gollwng sbwriel

Mae hyn yn cyfeirio at ollwng neu adael sbwriel ar dir neu mewn dŵr yn yr awyr agored sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

Peidio â chydymffurfio â hysbysiadau rheoli sbwriel stryd

Llunnir yr hysbysiadau hyn i'w rhoi ar eiddo masnachol, ac eiddo bwyd yn benodol, lle cronnir sbwriel yn y cyffiniau o ganlyniad i waith y busnes. Byddai'r hysbysiad yn mynnu bod gan y perchennog ddyletswydd i sicrhau y cedwir pellter penodedig ar y naill ochr i 'flaen' yr eiddo'n glir o sbwriel.

Peidio â chydymffurfio â hysbysiad clirio sbwriel

Mae gan y prif awdurdodau sbwriel y pŵer i roi'r hysbysiadau hyn lle caiff tir yn eu hardal ei ddifwyno gan sbwriel. Mae hyn yn berthnasol i dir preifat ac os na chydymffurfir â'r hysbysiad, byddai gan yr awdurdod lleol yr hawl i fynd ar y tir, clirio'r gwastraff ac adennill unrhyw gostau.

Peidio â chyflwyno dogfennau gwastraff

Mae gan yr awdurdod lleol y pŵer i fynnu (trwy hysbysiad) cadarnhad ar sut mae menter fasnachol yn cael gwared ar ei gwastraff masnachol. Mae peidio â chydymffurfio â'r hysbysiad hwn yn drosedd ac mae hyn fel arfer yn annog masnachwyr i gael gwared ar eu gwastraff yn y dull cywir.

Methu cyflwyno caniatâd i gludo gwastraff

Dylai unrhyw un sy'n cludo gwastraff am elw, neu sy'n cludo gwastraff fel rhan o'u gweithgareddau busnes, gael trwydded i wneud hynny. Mae gan swyddogion awdurdodedig y cyngor y pŵer i ofyn i weld y trwyddedau hyn.

Peidio â chydymffurfio â hysbysiad cynhwysydd gwastraff

Rhoddir yr hysbysiadau hyn i breswylwyr a masnachwyr er mwyn sicrhau eu bod hwy'n cyflwyno eu gwastraff ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir; mae'r hysbysiadau hefyd yn ymdrin ag unrhyw wastraff ychwanegol y gellir ei gyflwyno gan fasnachwyr.

Hysbysiad o Gosb Benodol am faw cŵn

Bydd peidio â glanhau ar ôl ci rydych yn berchen arno neu rydych â gofal amdano'n arwain at ddirwy cosb benodol.

Gadael dau gerbyd neu fwy sydd ar werth ar y ffordd

Bwriad hyn yw targedu pobl sy'n defnyddio'r briffordd fel ystafell arddangos answyddogol wrth gynnal busnes yn gwerthu cerbydau modur. Mae'r ymddygiad hwn yn annheg i breswylwyr lleol na chânt ddefnyddio'r ffordd eu hunain wedyn i barcio a byw eu bywydau pob dydd.

Gadael cerbyd

Mae gan y cyngor y cyfrifoldeb i symud pob cerbyd a adewir ar dir yn yr awyr agored.