Gorfodi baw cŵn
Mae baw cŵn yn annymunol ac yn beryglus i iechyd. Yn ôl y gyfraith, rhaid i berchnogion lanhau baw eu ci os yw'n baeddu mewn man cyhoeddus.
Os byddwch yn gadael i’ch ci faeddu ac yn methu â’i lanhau ar unwaith, gallai hyn arwain at:
- hysbysiad cosb benodedig o £100 (HCB)
- Erlyniad a dirwy o hyd at £1000
Rhoi gwybod am faw cŵn
Os ydych chi'n gweld rhywun ddim yn glanhau ar ôl ei gi, rhowch wybod i ni yn gyfrinachol.
Mae angen i ni wybod:
- diwrnod, dyddiad, lleoliad ac amser y digwyddiad
- disgrifiad o'r person sydd â gofal y ci
- disgrifiad o'r ci roedden nhw'n ei gerdded
- os cyrhaeddodd gerbyd: disgrifiad o'r cerbyd a'r rhif cofrestru
- os yn bosibl, ffotograffau
Gallwch hefyd roi gwybod am faw ci i'n Gwasanaeth Wardeiniaid Cŵn neu Swyddogion Gorfodi Gwastraff.
Sut y gallwch chi helpu
Defnyddiwch ein biniau baw cŵn i helpu i gadw ein cymuned yn lân ac yn rhydd o afiechydon. Dylech chi:
- cario a defnyddio bagiau untro
- cadwch eich ci dan reolaeth bob amser
- cadwch eich ci allan o ardaloedd lle mae cŵn yn gyfyngedig
- peidiwch â gadael y ci allan ar ei ben ei hun
Rhoi gwybod am fater bin cŵn
Rhowch wybod i ni os byddwch yn sylwi bod bin cŵn yn llawn neu wedi'i ddifrodi.