Ymylfaen coffa bloc fâs
Bydd y bloc fâs yn cael ei leoli yn y gerddi coffa. Y polisi a ddefnyddir yw bod teuluoedd y rhai a fu farw yn gallu prydlesu'r bloc am gyfnod o ddeng mlynedd, gyda'r opsiwn o adnewyddu'r brydles am ddeng mlynedd arall.
Prynir y llechen wenithfaen gyda'r arysgrif o'r amlosgfa a bydd yn eiddo i'r person a'i prynodd. Nodir y bydd y llwch yn dal i gael ei gladdu'n rhydd yn y ddaear fel a nodir yn ein polisi. Hefyd, ni fydd bloc fâs yn cael ei osod uwchben llwch.
Gofynnir i'r teuluoedd wneud apwyntiad gyda'r swyddfa er mwyn prydlesu'r bloc fâs.

