Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Am yr amlosgfa

Crëwyd Pwyllgor Amlosgfa Port Talbot a'r Cylch ar y cyd ar gyfer pedwar Awdurdod lleol a lleolwyd y prosiect pwysig hwn ar lannau ysblennydd cronfa ddŵr Eglwys Nunydd.

Agorwyd Amlosgfa Margam (yr wythfed i'w hadeiladu yng Nghymru) ar 1 Mai 1969. Fe'i lleolwyd ger Cyfnewidfa Margam (pedair milltir i'r dwyrain o Bort Talbot) mae'n gyfleus i briffordd yr A48 (Abertawe i Gaerdydd) a Thraffordd yr M4 (Cyffordd 38) sy'n gyfleus i gyrraedd ac ymadael. Ni ellir gweld y Draffordd o'r Amlosgfa er mwyn cynnal preifatrwydd a thawelwch.

Mae'r Amlosgfa ym Margam yn debyg i brosiectau eraill yn unig o ran y math o Ie ydyw a'r cyfleusterau a ddarperir. Mae'r dyluniad a'r adeilad yn unigryw ac yn wreiddiol; rhoddwyd ystyriaeth broffesiynol a manwl gofalus iawn gan y Penseiri Ymgynghorol, y Peiriannydd a'r Cyd-bwyllgor, heb arbed unrhyw gost nac ymdrech er mwyn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf posib.

Bydd Côd Arfer Amlosgfeydd a sefydlwyd gan Ffederasiwn Awdurdodau Amlosgi Prydain (y mae Pwyllgor yr Amlosgfa yn aelod ohono) yn cael ei ddilyn i'r llythyren wrth weithredu Amlosgfa Margam o ddydd i ddydd.