Llyfrau coffa
Mae Llyfrau Coffa i'w gweld yn y Capel Coffa gerllaw'r Ardd Orffwys. Mae'r llyfrau mewn pedair cyfrol o dri mis, wedi'u gorchuddio mewn lledr du llo wedi'u haddurno gydag aur mewn dyluniad cymeradwy gyda mecanwaith rhwymo a grëwyd yn arbennig.
Caiff yr arysgrifau eu hychwanegu gan grefftwyr medrus iawn a bydd y Llyfr yn cael ei agor bob dydd ar y dudalen briodol fel bo'r arysgrif i'w weld ar ddiwrnod coffa'r farwolaeth ac ar unrhyw amserau eraill drwy drefniad.
Gall perthnasau a ffrindiau ysgrifennu arysgrif dwy, pum neu wyth llinell i'w rhoi yn y Llyfr ar gais am gost arysgrif safonol. Gall arysgrifau coffa i rieni a fu farw gael eu gosod gyda'i gilydd ar dudalen dyddiad eu pen-blwydd priodas os dymunir. Gellir cynnwys arfbeisiau, lluniau o flodau neu Fathodynnau Gwasanaeth, etc., wrth ochr arysgrif pum neu wyth llinell, a rhoddir manylion ar gais.
Mae'r dudalen enghreifftiol (ar ffurf fechan) yn rhoi syniad i chi o'r math o arysgrif a ddefnyddir fel arfer. (Gwelir rhagor o enghreifftiau yn Swyddfa'r Amlosgfa).
Cerdyn Coffa
Mae cerdyn coffa gwyn yn dal un arysgrif. Gall y teulu gadw hwn neu ei anfon at berthynas pell. Gellir gweld enghreifftiau yu swyddfa'r Amlosgfa.
Llyfr Coffa Bach
Mae gennym Lyfrau Coffa bach sy'n union yr un peth â'r Llyfr Coffa. Mae'n ddigonol ar gyfer wyth arysgrif. Mea enghreifftiau ar gael yn Swyddfa'r Amlosgfa.