Garlant o atgofion
Gellir gosod blodau yn y Capel Coffa neu yn y Prif Gapel, darperir fasu a dysglau yn y ddau Gapel. Gellir gosod planhigion pot hefyd yn y Capel Coffa. Gellir gosod blodau ar y lawntiau ond ni ddylid eu diogelu gyda ffyn na phegiau metel, sy'n beryglus i dorrwyr gwair a staff garddio. Gofynnir i chi gael gwared ar unrhyw becynnu neu bapur cyn gosod y blodau ar y lawntiau. Bydd methu â chydymffurfio yn golygu y byddant yn cael eu symud. Ni chaniateir cynwysyddion, potiau, trefniadau blodau na blodau artiffisial yn y gerddi, ac os byddant yn cael eu gosod byddant yn cael eu symud.
Gellir neilltuo Fâs Allor (Capel Coffa) neu fâs mewn ffenestr lliw (Prif Gapel) pan fyddant ar gael er mwyn coffáu marwolaeth. Gellir eu neilltuo am un wythnos (h.y. o Ddydd Sadwrn tan Ddydd Gwener) ac mae'r gost yn cynnwys cerdyn coffa mewn ffrâm a osodir gyda'r blodau neu'r planhigion. Dylid rhoi tua phedwar mis o rybudd ar gyfer y trefniadau hyn a cheir adegau pan fydd y fasys wedi'u harchebu ymhell ymlaen llaw.
Cyflwynwyd dau gynllun ychwanegol er mwyn ychwanegu at ein dulliau coffa. Gellir cyfrannu at y Bylbiau a’r Coed Coffa drwy law'r Uwcharolygydd ar unrhyw adeg; o'r gronfa hon, prynir bylbiau naturiol bob blwyddyn yngyd â choed neu lwyni newydd. Drwy wneud hyn, mae'r cof am ein teuluoedd yn parhau drwy harddwch y blodau a'r coed sy'n llenwi'r parcdir hyfryd hwn, rhywbeth y gall bawb ei werthfawrogi a'i rannu.
Dydd Sul y Blodau
Bob blwyddyn, rydym yn cynnal Gwasanaeth Coffa ar diwrnod hwn i gofio am y rhai a amlosgwyd ym Margam. Mae bob amser yn dechrau am 3.00 p.m. Mae nifer o deuluoedd wedi dweud yr hoffent gyfrannu at y gost, ac erbyn hyn agorwyd Cronfa'r Gwasanaeth Coffa. Gellir rhoi rhodd er cof ar unrhyw adeg hyd at fis cyn y digwyddiad. Bydd Cofrestr Coffa sy'n rhestru enwau y rhai a goffeir yn cael ei pharatoi a'i harddangos yn y Capel am flwyddyn ar ôl Gwasanaeth Sul y Blodau. Argymhellir y ddau gynllun coffa hyn yn hytrach na rhoi blodau ar Ddydd Sul y Blodau, y Pasg a'r Nadolig pan fydd cymaint o flodau a phlanhigion pot i'w gweld.
Gwasanaeth y Nadolig
Ar yr ail ddydd Sadwm ym mis Rhagfyr, cynhelir Gwasanaeth Carolau. Mae'r gwasanaeth yn dechrau am 2.00 p.m. ac mae'n agored i bawb. Yn dilyn y Gwasanaeth, bydd lluniaeth ysgafn ar gael.