Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mynediad i gyfarfodydd - Gwybodaeth

Mae'r rhan fwyaf o gyfarfodydd y cyngor, ynghyd â chyfarfodydd y Cabinet, Byrddau'r Cabinet a chyfarfodydd Pwyllgor eraill, ar agor i'r cyhoedd, yn yr un modd ag adroddiadau'r cyfarfodydd hynny. Ceir eithriadau i'r darpariaethau "Mynediad i Wybodaeth", sef y rhannau hynny o gyfarfodydd ac adroddiadau lle mae'n debygol y caiff "gwybodaeth eithriedig" ei datgelu, megis gwybodaeth sy'n ymwneud â materion staffio neu faterion ariannol a busnes pobl neu gwmnïau sy'n ymwneud â'r cyngor, a materion sy'n ymwneud â gweithdrefnau cyfreithiol

Fel arall, gallwch gysylltu â Thîm y Gwasanaethau Democrataidd i gael cyngor ar gyfarfodydd a'r darpariaethau Mynediad at Wybodaeth yn Democratic.Services@npt.gov.uk.