Sut mae'r cyngor yn gweithio
Mae'r Cyngor yn cynnwys 60 o Gynghorwyr a etholwyd yn lleol sy'n cynrychioli 34 dosbarth o Gastell-nedd a Phort Talbot. Maent yn gwneud penderfyniadau ar sut mae'r Cyngor yn cael ei redeg a sut i wella gwasanaethau lleol ar ran pobl leol. Ar hyn o bryd mae un swydd wag a fydd yn cael eu llenwi gan is-etholiad. Mae'r ffordd y mae Cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau yn cael ei lywio gan syniadau'r pleidiau gwleidyddol y maent yn eu cynrychioli:
- 26 Llafur Cymru
- 19 Annibynnol
- 11 Plaid Cymru
- 3 Rhyddfrydwyr Coed-ffranc a’r Gwyrddion
Yr Arweinydd a'r Cabinet
Cyngor a arweinir gan Clymblaid yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Arweinydd y cyngor yw'r Cynghorydd Steve Hunt a etholwyd gan y cyngor ac ef sy'n arwain y Cabinet.
Mae'r Arweinydd Dirprwy y Cyngor yw'r Cynghorydd Alun Llewelyn.
Maer a Maer Dirprwy
Maer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Chris Williams.
Dirprwy Faer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Matthew Crowley.
Rhagor o wybodaeth am Faer Castell-nedd Port Talbot.
Pwyllgorau
Mae nifer o bwyllgorau ac mae swyddogaethau gwahanol gan bob un.
I gael rhagor o wybodaeth am bwyllgorau a phaneli, ewch i tudalennau Craffu a Gweithrediaeth.
Rheolaeth
Rheolir y cyngor a'i wasanaethau beunyddiol gan:
- Karen Jones, Prif Weithredwr
- Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio
- Andrew Thomas, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
- Andrew Jarrett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai
- Noewlyn Daniel, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol