Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Meini prawf priffyrdd

Gellir rhannu hwn yn ddwy ran:

Cynllunio Priffyrdd

  1. Dadansoddi gwybodaeth am briffyrdd a gyflwynir i gefnogi unrhyw ymchwiliad cyn cyflwyno cais neu gais cynllunio gan gyflwyno argymhellion i'r Is-adran Rheoli Datblygiad Cynllunio.

Mabwysiadu Priffyrdd

  1. Gofynion i'r gwaith gael ei wneud wrth ddatblygu ffyrdd newydd er mwyn cael mynediad i ddatblygiadau a fydd yn galluogi'r briffordd i gael ei mabwysiadu neu ymgymryd â gwaith ar y briffordd bresennol.

Cynllunio Priffyrdd

Bydd dyluniad cynllun priffyrdd ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd yn unol â Chanllaw Dylunio presennol yr awdurdod.

Mabwysiadu Priffyrdd

Dylunnir yr holl ffyrdd a adeiledir yn unol â dogfen manyleb priffyrdd yr awdurdod.

Gweithdrefn Fabwysiadu

Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd yn cefnogi creu strydoedd preifat newydd ac felly disgwylir y bydd yr holl ffyrdd a'r elfennau cysylltiedig yn cael eu dylunio yn ôl y canllaw hwn neu unrhyw safonau eraill y cytunir arnynt gan yr Awdurdod Priffyrdd ar yr adeg honno.

Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cyhoeddi manyleb adeiladu sydd ar gael i ddatblygwyr.

Fel rheol gyffredin, byddai'r elfennau canlynol yn cael eu hystyried ar gyfer mabwysiadu:-

  1. Ffyrdd a llwybrau cerdded gan gynnwys cilfannau gyferbyn â siopau.
  2. Llwybrau cerdded a llwybrau beicio i'w defnyddio gan y cyhoedd ac sy'n rhan o lwybrau cymunedol penodol.
  3. Ardaloedd tirlunio caled neu feddal sy'n cyfrannu at weithrediad boddhaol y briffordd (h.y. ymylon gwasanaeth ac ardaloedd ymledu gweledol). Ni fydd ardaloedd ymledu gweledol wrth fynedfeydd preifat unigol yn cael eu mabwysiadu.
  4. Rhannau o'r rhwydwaith ddraenio sy'n cario dŵr ffo o ardaloedd a fabwysiadwyd yn unig.
  5. Ni fydd dreifiau sy'n gwasanaethu hyd at 5 annedd yn cael eu mabwysiadu, bydd arwyddion yn cael eu gosod wrth y fynedfa i'r ddreif sy'n nodi eu bod yn breifat a byddant yn parhau felly.
  6. Rhaid i ffyrdd nad ydynt yn mynd i gael eu mabwysiadu gan ddatblygwr gael cytundeb ynghylch hyn o'r dechrau. Rhaid i arwyddion cysylltiedig ar safle sy'n dangos ei fod yn breifat gael eu gosod gan y datblygwr cyn meddu unrhyw annedd.

Pan fydd datblygiad yn cael ei gymeradwyo o dan y Rheoliadau Adeiladu, bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn cyflwyno hysbysiad statudol yn unol â darpariaethau Côd Blaendaliadau, Deddf Priffyrdd 1980.

Cyn dechrau adeiladu, rhaid i'r datblygwr gyflawni'r pethau canlynol:-

(i) Rhoi taliad i'r Awdurdod Priffyrdd sydd gyfwerth ag amcan gost gwaith y briffordd o dan Gôd Blaendaliadau, Adran 219 Deddf Priffyrdd 1980.

NEU

(ii) Dod i gytundeb â'r Awdurdod Priffyrdd dan ddarpariaethau Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980 a gefnogir gan fond priodol a ffi archwilio.

Os oes angen dechrau cynnar i'r gwaith adeiladu, mae'n hanfodol bod y datblygwr yn rhoi blaendal Hysbysiad Blaendaliad. Os telir y blaendal ag arian parod, bydd yn cael ei ad-dalu yn dilyn cwblhau Cytundeb Adran 38.

Mae'n drosedd dechrau ar waith cyn talu'r blaendal

Rhaid i gynlluniau sy'n rhan o Gytundebau Adran 38 ddangos y manylion canlynol:-

  1. Yr holl ffyrdd cerbydau, troedffyrdd a llwybrau cerdded.
  2. Lleiniau gwasanaeth.
  3. Colofnau goleuadau stryd, rhedeg ceblau a phwyntiau cyflenwi trydan.
  4. Holl elfennau draenio sydd o dan ardaloedd a fydd yn cael eu cynnig i'w mabwysiadu gan yr Awdurdod Priffyrdd.
  5. Manylion unrhyw waliau cynnal priffyrdd a fydd yn cael eu cynnig i'w mabwysiadu neu sydd gyferbyn â'r ardal i'w mabwysiadu yn y dyfodol.
  6. Manylion unrhyw gwlferi o dan ardaloedd a fydd yn cael eu cynnig i'w mabwysiadu.
  7. Manylion gwelededd ardaloedd i'w cynnig i'w mabwysiadu.
  8. Celfi stryd, biniau halen, arosfannau bes, biniau, meinciau etc.
  9. Yr holl gynlluniau cyfleustodau ar gyfer y datblygiad newydd.

O dan ddarpariaeth Deddf Priffyrdd 1980, rhaid cael caniatâd yr Awdurdod Priffyrdd i adeiladu unrhyw wal gynnal ar briffordd, y mae unrhyw ran yn uwch nag 1.37m (4 troedfedd 6 modfedd) ac yn agosach na 3.66m (4 llath) i ffin bresennol neu arfaethedig y briffordd.

Yn ogystal â'r waliau a ddisgrifir uchod, rhaid i'r datblygwr gael caniatâd yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer UNRHYW wal a fydd yn cynnal Priffordd Gyhoeddus gan fod waliau o'r fath yn debygol o gael eu mabwysiadu fel rhan o isadeiledd y ffordd. Rhaid i'r datblygwr dalu swm cyfnewid i'r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer atebolrwydd cynnal a chadw'r wal yn y dyfodol yn dilyn ei mabwysiadu. (Awgrymir peidio â defnyddio waliau cynnal lle bynnag y bo'n bosib). Bydd waliau dros 1.5m o uchder yn gofyn am luniadau adeiladu ynghyd â chyfrifiadau adeileddol cysylltiedig.

Ni fydd yr Awdurdod Priffyrdd yn mabwysiadu mannau parcio preswylwyr nac ardaloedd a dirluniwyd nad ydynt yn cyfrannu at weithrediad boddhaol y briffordd.

Tynnir sylw datblygwyr at ddarpariaethau Adran 278 Deddf Priffyrdd 1980 mewn achosion lle byddai datblygiad yn galw am fynediad neu waith arall ar y briffordd bresennol. Pan fydd gwaith ar briffordd er budd datblygiad yn galw am adeiladau ar dir gyferbyn â'r briffordd bresennol ynghyd â gwaith ar y briffordd bresennol, defnyddir hybrid A38/278. Gwaith a wneir ar y briffordd gyhoeddus bresennol yn unig sy'n gofyn am gytundeb A278. Ni wneir unrhyw waith ar y briffordd gyhoeddus bresennol nes bod y cytundeb cyfreithiol priodol wedi'i drefnu.

Gall cynlluniau datblygu nad ydynt yn cydsynio â'r canllawiau blaenorol o ran cynllun neu sy'n defnyddio deunyddiau neu gyfleusterau nad ydynt fel arfer yn cael eu mabwysiadu gan yr Awdurdod Priffyrdd yn cael eu hystyried i'w mabwysiadu, ond bydd rhaid i'r datblygwr gyflwyno cyfiawnhad rhesymegol dros eu cyflwyno a bydd angen swm cyfnewid i'w ddefnyddio ar gyfer deunyddiau o'r fath.

Fel rhan o'r broses fabwysiadu, bydd angen cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn ffurfioli unrhyw gytundeb.

  1. Enw a chyfeiriad llawn/swyddfa gofrestredig y datblygwr.
  2. Rhif ffôn.
  3. Cyfreithiwr y datblygwr.
  4. Enw a chyfeiriad llawn/swyddfa gofrestredig y Mechnïwr Arfaethedig.

Bydd cynllun y safle wedi'i liwio yn dilyn y rhestr ganlynol:

Feature Colour
Ffordd gerbydau Sienna llosg
Troedffordd Llwyd
Ymylon Gwyrdd
Asffalt Llwyd Tywyll
Draenio Priffyrdd Glas
Goleuadau Stryd Coch
Hawddfreintiau Melyn

Bydd y cytundeb mabwysiadu'n gofyn am 8 copi o bob lluniad gan gynnwys cynllun lleoliad y safleoedd i raddfa 1/2500 sy'n dangos perchnogaeth tir y datblygwr.

Os ceir cytundeb ôl-weithredol, rhaid darparu arolwg fel pe bai wedi'i adeiladu a chytuno ar hyn gan yr Uwch-beiriannydd Rheoli Datblygiad. Bydd cytundeb ôl-weithredol yn amodol ar ffïoedd sy'n seiliedig ar gost adeiladu rhwydwaith ffyrdd am y prisiau presennol.

Gwaith ar y briffordd

Atgoffir datblygwyr nad yw caniatâd o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990/91, yn cyfleu cymeradwyaeth am waith i'w wneud sy'n effeithio ar unrhyw ran o'r briffordd gyhoeddus, gan gynnwys ymylon a llwybrau cerdded. Rhaid i'r datblygwr:

  1. Gael caniatâd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer manylion unrhyw waith i'w wneud ar y Briffordd Gyhoeddus.
  2. Digolledu'r awdurdod yn erbyn unrhyw geisiadau a geir yn sgîl gwaith o'r fath, gan gynnwys ceisiadau o dan y Ddeddf Iawndal Tir.
  3.  Rhoi o leiaf 1 mis calendr o rybudd ysgrifenedig o ddyddiad dechrau'r gwaith.

Rheolir agoriadau ffyrdd mewn priffyrdd cyhoeddus ar gyfer darparu neu addasu gwasanaethau gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, a rhaid i'r datblygwr lynu'n gaeth wrth ddarpariaethau'r Ddeddf hon.

Dylai'r holl ymholiadau a hysbysebion ynghylch y gwaith arfaethedig ar briffyrdd cyhoeddus presennol gael eu cyfeirio at y bobl ganlynol:

Dylid cysylltu â'r peiriannydd perthnasol y ceir ei fanylion ar dudalen 1 y ddogfen hon, wrth ymgymryd ag unrhyw addasiadau i isadeiledd y briffordd bresennol (Adran 278).
Rheolwr Traffig (01639 686305)

Ar gyfer eitemau o dan 17.1.2, Deddf Gwaith Stryd 1991