Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheoli datblygiad priffyrdd

Cyflwyniad

O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygiad) (Cymru) (Diwygiad) 2016 (GGRhDC), gwnaed newidiadau fel bod yn rhaid i ddatblygwyr sydd am ddatblygu safleoedd ceisiadau cynllunio mawr gyflwyno Ymgynghoriadau Cyn Yymgeisio (PAC) yn uniongyrchol at ymgyngoreion statudol

Meini prawf ar gyfer Datblygiad Mawr

Mae "datblygiad mawr" yn golygu datblygiad (1) sy'n cynnwys un neu fwy o'r canlynol:

  1. ennill a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithio mwynau (2);
  2. datblygu gwastraff;
  3. darparu tai lle bydd -
    1. (i) nifer y tai a adeiledir yn 10 neu'n fwy; neu
    2. (ii) bydd gan safle'r datblygiad arwynebedd o 0.5 hectar neu fwy ac ni wyddys a yw'r datblygiad yn cael ei gynnwys yn is-baragraff (c)(i);
  4. darparu adeilad neu adeiladau lle bydd arwynebedd llawr y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy; neu
  5. bydd gan safle'r datblygiad arwynebedd o 1 hectar neu fwy;

Yn Atodlen 4 y GGRhDC fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn 2016, mae angen i ddatblygwr ymgynghori ag ymgynghorai statudol a restrir yn nhabl yr Atodlen pan fydd y datblygiad arfaethedig yn bodloni gofynion "Disgrifiad o Ddatblygiad" fel a restrir yng ngholofn 2 y tabl hwnnw'n unig.

Ceir darn o'r tabl yn Atodlen 4 y GGRhDC a'r Awdurdod Priffyrdd fydd CBSCNPT.

Tabl (darn ohono)

Paragraff Disgrifiad o Ddatblygiad Ymgynghorai
(dd) Mae'n debygol y bydd y datblygiad yn arwain at newid sylweddol yn y math o draffig sy'n cyrraedd neu'n gadael ffordd ddosbarthedig neu briffordd arfaethedig. Yr awdurdod priffyrdd lleol dan sylw.
(e) Mae'n debygol y bydd y datblygiad yn peryglu gwelliannau neu adeiladu ffordd ddosbarthedig neu briffordd arfaethedig. Yr awdurdod priffyrdd lleol dan sylw
(f)

Datblygiad yn cynnwys:

(i) creu, gosod neu newid unrhyw ddulliau mynediad i briffordd (heblaw am gefnffordd); neu

(ii) adeiladu priffordd neu ddull preifat i fangre sy'n rhoi mynediad i ffordd y mae hysbysiad toll ar waith arni

 

Yr awdurdod priffyrdd lleol dan sylw

Yr awdurdod priffyrdd lleol dan sylw ac, yn achos ffordd sy'n destun consesiwn, y deiliad consesiwn
(ff) Datblygiad sy'n cynnwys gosod neu adeiladu stryd newydd. Yr awdurdod priffyrdd lleol dan sylw


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT), yn unol â'r tabl hwn, yn gweithredu fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y ffyrdd a gynhelir yn gyhoeddus yn ei Fwrdeistref ac eithrio traffordd yr M4 a chefnffyrdd (sef yr A465 a'r A48) sy'n cysylltu rhwng cyffordd 42 a chyffordd 40. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fel yr Awdurdod Priffyrdd yw'r rhain.

Cyfrifoldeb y Datblygwr

Mae'n rhaid i'r datblygwr ddarparu'r canlynol yn uniongyrchol i CBSCNPT, neu gyfeirio CBSCNPT i wefan sy'n cynnwys yr wybodaeth hon:

  • Byddai angen i'r holl wybodaeth gael ei chyflwyno fel rhan o gais cynllunio ffurfiol. Mae hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth ar y ffurflen cais cynllunio perthnasol, ac eithrio tystysgrifau perchnogaeth.
  • Cynlluniau i raddfa, gyda saeth ogleddol, i nodi'r tir y mae'r cais yn berthnasol iddo.
  • Yr holl gynlluniau i raddfa, darluniau a gwybodaeth arall a fyddai eu hangen i ddisgrifio'r datblygiad arfaethedig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddogfennau technegol y byddai eu hangen i ddilysu unrhyw gais dilynol.
  • Datganiad Dylunio a Mynediad.
  • Unrhyw wybodaeth y byddai ei hangen er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofynion dilysu lleol yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

Cyfrifoldeb yr Ymgynghorai

Mae angen i CBSCNPT fel yr Ymgynghorai Priffyrdd roi "ymateb sylweddol" i'r datblygwr o fewn 28 niwrnod penodedig, neu o fewn cyfnod y cytunwyd arno yn ysgrifenedig â'r datblygwr. Mae CBSCNPT, fel yr Ymgynghorai Priffyrdd, dan ddyletswydd i roi ymateb sylweddol pan fyddant yn derbyn hysbysiad ffurfiol o dan Erthygl 2D y GGRhDC yn unig.

"Ymateb sylweddol" yw un sy'n:

  1. nodi nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol sylw i'w wneud;
  2. nodi nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig ac mae'n cyfeirio'r ymgeisydd at gyngor presennol a roddir gan yr ymgynghorai arbenigol ar yr ymgynghoriad;
  3. rhoi gwybod i'r ymgeisydd am unrhyw bryderon a nodwyd mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i'r afael â nhw; neu
  4. roi gwybod i'r ymgeisydd bod gan yr ymgynghorai arbenigol bryderon a byddai'n gwrthwynebu cais am ganiatâd cynllunio a roddir ar yr un amodau, neu amodau tebyg iawn, ac mae'n rhoi'r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.

Gellir cysylltu â ni drwy e-bostio SAB-HDC@npt.gov.ukneu drwy ffonio 01639 686850.