Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheoli diogelwch bwyd

Y Ddeddfwriaeth

O dan Erthygl 5 Rheoliad (CE) 852/2004, mae'n rhaid i fusnesau bwyd sefydlu system rheoli diogelwch bwyd, ei rhoi ar waith a'i chynnal a'i chadw, yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP), er mwyn sicrhau bod y bwyd a gynhyrchir yn eu mangre yn ddiogel i'w fwyta.

Bydd graddau a chymhlethdod y system hon yn dibynnu ar natur a maint y busnes.

Beth yw HACCP?

System rheoli diogelwch bwyd a dderbynnir yn helaeth yw HACCP a gellir ei haddasu'n hawdd i gydweddu â busnesau bwyd o bob math a maint. Mae ei chysyniad yn canolbwyntio ar atal problemau diogelwch bwyd cyn iddynt ddigwydd ac fe'i derbynnir gan awdurdodau rhyngwladol mai dyma'r modd mwyaf effeithiol o reoli clefydau a gludir mewn bwyd.

Mae gan HACCP saith egwyddor:

  1.  Cynnal dadansoddiad perygl
  2. Pennu'r pwyntiau rheoli critigol
  3. Sefydlu terfynau critigol
  4. Sefydlu gweithdrefn fonitro i reoli'r pwyntiau rheoli critigol
  5. Sefydlu camau cywirol pan fo monitro'n nodi na reolir y pwyntiau rheoli critigol
  6. Rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn gwirio/cadarnhau bod yr HACCP yn gweithio'n effeithiol
  7. Cadw dogfennaeth ar gyfer yr holl weithdrefnau a chofnodion
     

Mae'n bwysig adolygu'r HACCP yn rheolaidd.
 
Er mwyn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, gellir lawrlwytho pecynnau cymorth yn uniongyrchol o wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd www.food.gov.uk/wales/wales. Enghreifftiau o'r pecynnau cymorth a all roi'r arweiniad angenrheidiol i gydymffurfio â'r rheoliadau yw'r canlynol: Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell; Safe Catering; a Cook Safe.

Hyfforddiant

Dan y rheoliadau, mae'n rhaid i'r person sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y gweithdrefnau diogelwch bwyd fod wedi derbyn hyfforddiant digonol.