Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hyfforddiant hylendid bwyd

Mae Rheoliad y CE Rhif 852/2004 ar hylendid bwyd yn mynnu bod gweithredwyr busnesau bwyd yn sicrhau y caiff unrhyw staff sy'n trin bwyd eu goruchwylio a'u cyfarwyddo, a/neu'u hyfforddi, mewn hylendid bwyd, a hynny'n briodol i'r gwaith y maent yn ei wneud.
 
Ar gyfer y rhai sy'n trin bwyd, bydd angen penderfynu ar y cydbwysedd rhwng goruchwyliaeth a chyfarwyddyd a/neu hyfforddiant fesul achos a bydd yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau.

Mae cyrsiau ffurfiol ar gael fel Gwobr Lefel Dau mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo, Gwobr Lefel Tri mewn Goruchwylio Bwyd yn Ddiogel mewn Arlwyo, a Gwobr Lefel 4 mewn Rheoli Bwyd yn Ddiogel mewn Arlwyo.

Efallai y bydd anghenion hyfforddiant gwahanol gennych chi a'ch staff, felly dylech ystyried pob aelod o staff yn ei dro. Efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau arbennig i unrhyw staff nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf neu i'r rhai y mae ganddynt broblemau llythrennedd.

Mae'n arfer da i fusnes gadw cofnodion yr hyfforddiant a roddir i bob aelod o staff, er mwyn dangos cymhwysedd unigol.

Ble gallwch gael Hyfforddiant Hylendid Bwyd

Gall gwefan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd roi manylion y canolfannau hyfforddiant sy'n cynnal cyrsiau hylendid bwyd. Gall y sefydliad hefyd ddarparu manylion hyfforddwyr sy'n cynnal cyrsiau mewn ieithoedd heblaw am Saesneg. Ei rif ffôn yw 02079 286006 a'i wefan yw www.cieh-coursefinder.com
 
Cynhelir cyrsiau achrededig hefyd gan y canlynol:
Sefydliad Brenhinol Iechyd Cyhoeddus
www.riph.org.uk
Ffôn: (02075) 802731

Y Gymdeithas Frenhinol dros Hybu Iechyd
www.rsph.org
Ffôn: (02076) 300121

Society of Food Hygiene Technology
www.sofht.co.uk
Ffôn: (01590) 671979