Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyngor arlwyo cartref

(Gan gynnwys busnesau teisennau sy'n cael eu gweithredu gartref)

Nid yw'r rhestr isod yn gynhwysfawr a dylech barhau i gyfeirio at y llyfryn gwybodaeth 'Sefydlu busnes bwyd newydd' ar gyfer cyngor mwy manwl ar hylendid bwyd.

Rheolaeth

  • Sicrhewch eich bod wedi cofrestru'r busnes gydag Iechyd yr Amgylchedd o leiaf 28 niwrnod cyn i chi fwriadu dechrau masnachu.
  • Mae'n rhaid i weithredwyr bwyd sicrhau y cânt hwy ac unrhyw un arall sy'n gweithio gyda bwyd yn y busnes eu cyfarwyddo, eu goruchwylio a/neu eu hyfforddi'n briodol. Argymhellir y dylai staff gael hyfforddiant hylendid bwyd cyfwerth â Thystysgrif Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd.
  • Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi roi system rheoli diogelwch bwyd ar waith ar egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol), sy'n gymesur â maint a natur eich busnes. Os yw eich nwyddau'n cynnwys bwydydd risg uchel, e.e. bwydydd protein fel hufen, caws, wyau neu gigoedd ffres, bydd angen i chi roi system rheoli diogelwch bwyd sydd wedi'u dogfennu ar waith, e.e. “Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell”.

Hylendid Personol

  • Golchwch eich dwylo bob amser cyn paratoi bwyd ac ar adegau allweddol wrth baratoi bwyd. Mae golchi dwylo'n effeithlon yn cynnwys defnyddio dŵr poeth, sebon gwrth-facterol, brws ewinedd a thywelion llaw tafladwy.
  • Gwisgwch ddillad amddiffynnol glân bob amser na fydd yn halogi bwyd, er enghraifft blew anifeiliaid anwes, ffibrau gwlân, botymau llac. 
  • Cyn paratoi bwyd, tynnwch emau diangen, broesau, etc, gan fod gemwaith yn dal baw a bacteria a gall gwympo i fwyd.
  • Peidiwch â smygu neu gyffwrdd â'ch gwallt, eich trwyn neu eich ceg wrth i'r bwyd gael ei baratoi.
  • Os oes gennych gwt, sicrhewch eich bod yn rhoi gorchudd gwrth-ddŵr lliwgar drosto, yn hytrach na rhwymyn rhwyllog.
  • Os oes gennych friwiau, cornwydydd, anafiadau septig neu unrhyw fath arall o gyflwr croen, peidiwch â pharatoi a thrin bwyd i'w fwyta gan bobl eraill.
  • Os oes gennych symptomau fel chwydu neu ddolur rhydd, peidiwch â pharatoi bwyd. Sicrhewch nad ydych yn paratoi bwyd i bobl eraill am o leiaf 48 awr ar ôl i'ch symptomau ddiflannu. 
  • Mae'n rhaid bod mynediad hawdd o'r gegin i fasn golchi dwylo, gyda dŵr poeth, sebon a thywelion, yn ddelfrydol yn y gegin ei hun, a dylid ei ddynodi ar gyfer golchi dwylo'n unig.
  • Sicrhewch fod arwynebau lle cyffyrddir â bwyd, dysglau ac offer cegin yn lân cyn paratoi bwyd.
  • Peidiwch byth â defnyddio cyfarpar ac/neu offer cegin ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd wedi'u coginio heb eu glanhau a'u diheintio.
  • Sicrhewch y gwneir unrhyw waith arlwyo masnachol yn y gegin ar adegau gwahanol i weithgareddau domestig. Mae hyn yn cynnwys paratoi bwyd at ddibenion personol, golchi dillad neu dasgau domestig eraill.
  • Peidiwch â chaniatáu anifeiliaid anwes, eu bwyd neu eu blychau baw yn y gegin yn ystod amserau arlwyo masnachol gan eu bod yn dal bacteria a'r posibilrwydd y bydd blew a dulliau halogi eraill.
  • Os oes gennych blant ifanc a rhai bach, cadwch hwy allan o'r gegin wrth i chi baratoi bwyd ar gyfer eich busnes.

Cynhwysion

  • Sicrhewch fod ansawdd cynhwysion yn dda.
  • Prynwch gynhwysion o gyflenwr dibynadwy, yn ddelfrydol yn union cyn y bydd eu hangen arnoch, a sicrhewch eu bod ymhell cyn eu dyddiadau "defnyddio erbyn" ac "ar ei orau cyn".
  • Cadwch fwydydd parod, er enghraifft teisennau a bisgedi, i ffwrdd o fwydydd amrwd, fel cig a dofednod amrwd.
  • Peidiwch byth ag ychwanegu masgl ŵy amrwd (melynwy neu wyn) i fwyd parod nac yn unrhyw beth na chaiff ei goginio'n drylwyr, er enghraifft fel cynhwysyn ar gyfer eisen neu mousse. Argymhellir y dylech ddefnyddio wyau â "stamp y llew" arnynt.

Storio Bwyd yn Ddiogel

  • Mae'n rhaid cadw teisennau caws a bwydydd sy'n cynnwys eisen hufen neu eisen hufen menyn mewn oergell ar 8°C neu lai (yn ddelfrydol ar 5°C).
  • Gorchuddiwch fwyd - mae'n rhaid diogelu pob bwyd rhag ei halogi, er enghraifft:
    • Halogi bacterol gan - fwydydd amrwd, sbwriel, dwylo brwnt, anifeiliaid, pryfed, etc.
    • Halogi cemegol gan - ddeunyddiau glanhau, diheintyddion, etc
    • Halogi corfforol gan - wallt, gemwaith, botymau, blew anifeiliaid anwes, etc
  • Gwiriwch labeli ar gyfer cyfarwyddiadau storio a sicrhewch na chaiff bwyd ei adael y tu allan i'r oergell am gyfnodau hir.
  • Cadwch gigoedd, dofednod, pysgod a bwydydd amrwd eraill islaw bwydydd wedi'u coginio neu fwydydd parod i'w bwyta; dylent fod mewn cynhwysydd diogel rhag diferu os yw'n bosib.
  • Dylid cadw rhan oeraf eich oergell rhwng 0°C a 5°C. Argymhellir y dylech ddarparu thermomedr er mwyn i chi allu monitro'r tymheredd hwn.
  • Peidiwch â gorlwytho eich oergell neu bydd hyn yn effeithio ar ei heffeithlonrwydd. Os bydd angen storio cryn dipyn o fwyd a rheoli ei dymheredd, argymhellir y dylid darparu oergell ddynodedig ar wahân.
  • Paratowch fwydydd y bydd angen eu hoeri'n olaf – peidiwch â'u gadael i sefyll ac ewch ati i oeri bwydydd wedi'u coginio o fewn 1 awr i 90 munud.
  • Diogelwch y cynhwysion a'r teisennau/cynhyrchion gorffenedig rhag eu halogi gan fwydydd eraill, yn enwedig fwydydd a allai gynnwys cnau (os ydych yn gwneud teisennau â chnau, mae'n syniad da i'w paratoi'n olaf er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y caiff bwydydd eraill eu halogi.
  • Cadwch deisennau caws ac unrhyw deisennau neu bwdinau sy'n cynnwys eisen hufen neu fenyn yn yr oergell tan y bydd eu hangen. Ar ôl eu paratoi, sicrhewch y cânt eu gwerthu/bwyta pan fyddant yn ffres ac yn addas i'w bwyta gan bobl (Cewch wared ar unrhyw fwyd anaddas ar unwaith).
  • Storiwch deisennau/cynhyrchion gorffenedig mewn cynhwysydd glân y gellir ei selio, i ffwrdd o fwydydd amrwd, yn enwedig gig amrwd

Cludo Bwyd

  • Dylid gosod bwyd mewn cynhwysydd addas ar gyfer bwyd, yn ddelfrydol â chaead tynn. • Dylid cadw bwydydd risg uchel, gan gynnwys teisennau caws a bwydydd sy'n cynnwys eisen hufen/hufen menyn yn oer drwy ddefnyddio "paciau oer".
  • Sicrhewch fod y cerbyd yn lân ac nid yw'n peri risg o halogi'r bwydydd hynny. Gwerthu bwyd mewn stondinau, digwyddiadau, etc.
  • Cludwch fwyd mewn cynwysyddion glân y gellir eu selio, a gorchuddiwch unrhyw "fwydydd heb eu lapio" fel teisennau - yn enwedig wrth eu gwerthu neu eu gweini yn yr awyr agored.
  • Sicrhewch fod unrhyw fwydydd risg uchel sy'n cynnwys teisennau caws, ac unrhyw deisennau neu bwdinau sy'n cynnwys eisen hufen neu fenyn, y tu allan i'r rhewgell ar gyfer y cyfnod byrraf posib (defnyddiwch flychau oer os nad oes digon o le yn eich oergell).
  • Ceisiwch osgoi trin bwydydd – gwerthwch fwyd "sydd wedi'i lapio'n unigol", neu defnyddiwch efeiliau neu gyllell deisennau i weini bwyd.
  • Sicrhewch fod gennych ryw fodd o olchi eich dwylo a'ch cyfarpar (os cânt eu defnyddio) - naill ai sinc gyfagos neu fasn golchi dwylo, neu rai dysglau, sebon, tywel a rhyw fath o gyflenwad dŵr cludadwy (e.e. fflasgiau dŵr poeth). 
  • Sicrhewch fod pob deunydd sy'n cyffwrdd â bwyd/deunydd lapio bwyd yn "ddiheintiedig" ac yn "addas ar gyfer bwyd".

Enw (Masnachu) Busnes ac Yswiriant

  • Mae'n rhaid bod gan bob busnes/endid masnachu enw masnachu ffurfiol ac mae'n rhaid ei arddangos mewn man blaenllaw lle gall cyflenwyr a chwsmeriaid ei weld, ym mhob mangre lle mae'r busnes hwnnw'n gweithredu. 
  •  Mae'n rhaid i enw(au) masnachu a chyfeiriad y busnes ymddangos ar bob archeb, anfoneb, derbynneb a gorchymyn am dâl. 
  •  Y canlynol yw'r prif fathau o yswiriant i'w hystyried/cael:
    • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr - o dan Ddeddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1969,
    • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus,
    • Yswiriant Atebolrwydd Cynnyrch.

Os oes angen fersiwn sy'n addas i'w hargraffu, dewiswch

Llawrllwythio