Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwynion am fwyd

Bydd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn ymdrin â chwynion am ansawdd bwyd, materion hylendid a diogelwch, er enghraifft bwyd sydd wedi llwydo, bwydydd sy'n cynnwys darnau estron fel metel, gwydr neu hyd yn oed pryfed, neu efallai unrhyw bryderon sydd gennych am safonau hylendid mewn mangre benodol.

Gallwch gysylltu â'r adran os oes gennych unrhyw gwynion neu bryderon er mwyn iddynt gael eu harchwilio. Fel arall, gallwch ddychwelyd y bwyd i'r fangre lle cafodd ei brynu er mwyn i archwiliad gael ei gynnal "yn fewnol".

Os ydych wedi prynu bwyd yn y fwrdeistref a all, yn eich barn chi, fod yn anniogel, neu os ydych wedi canfod darn estron yn y bwyd a hoffech gwyno, sylwer ar yr awgrymiadau defnyddiol canlynol i'ch helpu i sicrhau yr archwilir eich pryderon yn llawn:

  • Gall swyddog ddymuno mynd â'r bwyd neu'r darn estron i ffwrdd a'i gyflwyno i labordy i'w ddadansoddi, felly dylid cadw unrhyw fwyd amheus sydd heb ei fwyta, neu'r darn estron ei hun, mewn cynhwysydd â chlawr, a'i roi mewn oergell neu rewgell tan iddo gael ei gasglu. Bydd hyn yn helpu i oedi unrhyw ddirywiad pellach yn y bwyd.
  • Cadwch unrhyw dderbynebau a deunydd pacio sydd gennych gan y bydd y rhain yn darparu gwybodaeth bwysig - fel dyddiadau defnyddio erbyn, codau batsienni, etc - y bydd ei hangen ar gyfer yr archwiliad.
  • Cadwch unrhyw ddarnau estron - bydd eu hangen fel tystiolaeth.

COFIWCH! Storiwch fwyd amheus bob amser mewn modd na fydd yn halogi bwydydd eraill a pheidiwch byth â chael gwared ar y darn estron na'i wahanu o weddill y bwyd. Triniwch y bwyd cyn lleied â phosib a golchwch eich dwylo bob amser wedyn. Lle bo'n bosib, cadwch unrhyw dderbynebau.

Ar ôl i'r archwiliad ddechrau, bydd angen i'r swyddog sy'n ymdrin â'ch cwyn gysylltu â'r fangre lle brynoch eich bwyd (neu brif swyddfa'r cwmni), neu wneuthurwr neu fewnforiwr y bwyd, a'r awdurdod lleol lle ceir y gwneuthurwr neu'r mewnforiwr.

Ar ddiwedd yr archwiliad, pennir y camau gorfodi a gymerir gan y swyddog yn ôl natur y gŵyn, a dderbyniwyd cwynion tebyg a'r nifer ohonynt, a'r mesurau a roddwyd ar waith er mwyn atal achos y gŵyn rhag digwydd.

Mewn llawer o achosion, bydd y cam gweithredu a gymerir yn anffurfiol; fodd bynnag, pe bai camau gweithredu ffurfiol yn cael eu cymryd, bydd angen i chi ddarparu datganiad ysgrifenedig. Gall yr archwiliad ei hun gymryd amser maith oherwydd yr oedi a geir wrth gasglu adroddiadau gan gwmnïau, awdurdodau lleol a labordai; fodd bynnag, cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr archwiliad wrth iddo fynd rhagddo.

Prif bwrpas archwilio cwynion bwyd yw diogelu iechyd y cyhoedd. Nid fydd y cyngor yn cymryd rhan yn y broses o geisio ad-daliadau neu iawndal i chi o ganlyniad i'ch cwyn am fwyd.