Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwrychoedd a choed

Gorchmynion Cadw Coed a Gorchmynion Cadwraeth

  1. Gellir gosod Gorchmynion Cadw Coed ar goed unigol neu ar goetiroedd cyfan.
  2. Mae Gorchmynion Cadwraeth yn ddynodiadau cynhwysfawr a allai gynnwys gerddi.

Bydd rhaid cael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol i weithio ar goed neu goetiroedd â'r gorchmynion hyn.

Er mwyn gwirio a oes gorchymyn o'r fath ar gyfer y coed rydych yn dymuno gweithio arnynt, cael ffurflen i gyflwyno cais am ganiatâd neu gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran Cynllunio.

Rheoliadau Gwrychoedd

Nod Rheoliadau Gwrychoedd 1997 yw gwarchod gwrychoedd gwledig. Mae'r rheoliadau'n berthnasol i wrychoedd dros 20m mewn hyd ac sy'n gyfagos i:

  1. Dir comin.
  2. Meysydd trefi.
  3. Safleoedd a warchodir, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Lleol.
  4. Tir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth.
  5. Tir a ddefnyddir at ddibenion coedwigaeth.
  6. Tir a ddefnyddir at ddibenion bridio neu gadw ceffylau, merlod neu asynnod.

Ni chaiff gwrychoedd 'sydd o fewn, neu sy'n nodi, ffiniau cwrtil tŷ annedd' eu cynnwys.  

Yn unol â'r rheoliadau, mae'n rhaid i dirfeddianwyr gyflwyno Hysbysiad Gwaredu Gwrych gan nodi eu bwriad i'r awdurdod cynllunio lleol. Yna mae gan yr awdurdod lleol 42 ddiwrnod i bennu a fyddai'r gwrych yn cael ei ystyried yn 'bwysig' o ran y meini prawf a restrir yn y rheoliadau. Os felly, bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno Hysbysiad Cadw Gwrychoedd i sicrhau y cedwir y gwrych. Os yw tirfeddiannwr yn cael gwared ar wrych heb roi gwybod i'r awdurdod lleol gall fod yn drosedd a gallai'r awdurdod lleol ymchwilio i'r achos a chyflwyno dirwyon drwy'r llysoedd a/neu orchymyn ailblannu.

Am fwy o wybodaeth a'r meini prawf ar gyfer gwrych pwysig, darllenwch y Rheoliadau Gwrychoedd.

Trwyddedau Torri Coed

Cyflwynir trwyddedau torri coed gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent yn ofynnol ar gyfer unrhyw waith torri coed a fyddai'n fwy na 5 metr ciwbig o goed mewn cyfnod chwarter calendr. Gellir torri coed heb drwydded dan yr amodau canlynol:

  1. Torri hyd at 5 metr ciwbig o goed mewn cyfnod chwarter calendr ar yr amod na werthir mwy na 2 fetr ciwbig (ac nad oes unrhyw gyfyngiadau eraill yn berthnasol, e.e. Gorchmynion Cadw Coed neu mewn ardaloedd cadwraeth).
  2. Tocio a thorri brigau.
  3. Caiff coed eu torri fel rhan o gynllun grant coedwigaeth neu goetir cymeradwy.
  4. Coed ffrwythau, coed sy'n tyfu mewn gardd, perllan, mynwent neu fan agored dynodedig (os nad oes unrhyw gyfyngiadau eraill yn berthnasol).
  5. Coed â diamedr o 8cm neu lai sy'n 1.3m o'r ddaear; coed wedi'u teneuo â diamedr o 10cm neu lai a phrysgoed â diamedr o 15cm neu lai.
  6. Coed i'w torri dan ofyniad caniatâd cynllunio dilys.
  7. Coed a allai beryglu bywyd neu amharu ar drydydd parti.
  8. Coed i'w torri o dan Ddeddf Seneddol.

Am fwy o wybodaeth neu i gyflwyno cais am drwydded torri coed, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Deddfwriaeth Arall

Mae'n bosib y gallai gwaith ar wrychoedd neu goed effeithio ar fywyd gwyllt, megis adar ac ystlumod. Felly dylech gyfeirio at ofynion deddfwriaeth bioamrywiaeth arall. Dilynwch y dolenni isod:

  1. Adar
  2. Ystlumod
  3. Moch Daear
  4. Anifeiliaid eraill