Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ystlumod a'r gyfraith

Gwarchodir holl rywogaethau y DU o ystlumod gan ddeddfwriaeth Ewrop a'r DU: Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a'r diwygiadau i Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl ystlumod a’u mannau clwydo’n cael eu diogelu’n llwyr yn gyfreithiol.

Troseddau:

  • Lladd neu anafu ystlum, neu ei drin â llaw.
  • Tarfu ar ystlumod pan fyddant yn clwydo.
  • Rhwystro, difrodi neu ddinistrio'r mannau lle mae ystlumod yn byw (mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad oes ystlumod yn byw yno ar y pryd).
  • Meddiannu, rheoli, cludo, gwerthu, cyfnewid neu gynnig i werthu/cyfnewid unrhyw ystlum, boed fyw neu farw, neu unrhyw ran o ystlum.
  • Cadw ystlumod mewn caethiwed.

Os gwneir unrhyw weithredoedd sy'n arwain at unrhyw un o'r uchod, bydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith. 

Os bydd hyn yn arwain at erlyniad, gellir garcharu'r troseddwr am 6 misa/neu dirwy.

Eithriadau:

Mae sawl eithriad lle gellir gwneud gweithredoedd o'r fath heb gyflawni trosedd:

  • Os nad oes dewis rhesymol arall, gallwch ofalu am ystlum sydd wedi'i anafu er mwyn ei ryddhau pan fydd wedi gwella neu, yn yr un modd, os nad oes dewis rhesymol arall, gallwch ladd ystlum os nad oes posibilrwydd rhesymol y bydd yn gwella. Cyn gwneud yr un o'r ddau, dylech wirio gydag arbenigwr am unrhyw ddewisiadau eraill.
  • Os oes unrhyw weithredoedd neu waith, megis cynnal a chadw cartref neu waith datblygu, yn debygol o effeithio ar ystlumod, mae'n bosib y gellir cael trwydded (rhanddirymiad) gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i chi wneud gwaith, gan ddibynnu ar roi amodau a dulliau gwaith penodol ar waith. Mae'n bosib y bydd yn ofynnol darparu mesurau lliniaru, yn enwedig yn achos datblygiadau lle, er enghraifft, caiff clwydfannau eu symud. Fel arfer, mae'n ofynnol darparu mannau clwydo newydd os caiff rhai eu colli.

Mwy o Wybodaeth: