Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Anifeiliaid eraill a'r gyfraith

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yw'r prif ddeddfwriaethau sy'n gwarchod anifeiliaid.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwarchod anifeiliaid gwyllt penodol a restrir yn Atodlen 5 y ddeddf sy'n gwahardd lladd, anafu, cymryd, meddiannu a masnachu anifeiliaid gwyllt yn fwriadol. Yn ogystal â hyn, caiff mannau a ddefnyddir at ddibenion lloches a gwarchod eu diogelu rhag difrod, dinistr a rhwystr bwriadol.

Caiff nifer o rywogaethau a warchodir gan Ewrop eu gwarchod o dan y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) hefyd. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn golygu ei bod yn drosedd lladd, dal neu darfu'n fwriadol ar rywogaeth a warchodir gan Ewrop neu ddifrodi neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o'r fath.

Mae Deddf (Diogelu) Mamaliaid Gwyllt 1996 yn gwarchod rhywogaethau o famaliaid, yn enwedig rhag creulondeb. Cyflawnir trosedd o dan y ddeddf hon os oes unrhyw berson yn llurgunio, yn cicio, yn curo, yn hoelio, yn trywanu (â chyllell neu rywbeth arall), yn llosgi, yn gwasgu, yn boddi, yn llusgo neu'n mygu unrhyw anifail gwyllt neu'n ei bledu â cherrig â'r bwriad o wneud iddo ddioddef yn ddiangen. Mae nifer o eithriadau: lladd anifail ag anabledd difrifol mewn trugaredd, lladd anifail sydd wedi'i anafu os gwneir hyn mewn modd cyflym a thrugarog, lladd cyfreithlon ag awdurdod e.e. at ddibenion rheoli plâu.

Deddfwriaeth Arall

Mae deddfwriaeth arall sy'n gwarchod bywyd gwyllt, neu grwpiau penodol o fywyd gwyllt, yn cynnwys: