Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Polisi Rhyddhau Llusern Awyr a Balŵns

Mae Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo diwygiad i'r Polisi Llusernau Awyr presennol fel ei fod yn cynnwys gwahardd rhyddhau balwnau o dir y cyngor. Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cymryd y cam hwn oherwydd bod effaith negyddol balwnau a llusernau awyr ar fywyd gwyllt, yn enwedig bywyd morol, yn ddigon hysbys.

Mae adroddiadau am ddolffiniaid, crwbanod y môr, adar y môr, hyd yn oed morfilod sydd wedi cael eu lladd gan falwnau, naill ai drwy lyncu'r balwnau neu drwy feddwl, ar gam, eu bod yn rhywogaethau ysglyfaeth megis slefren fôr, neu drwy fynd ynghlwm yn y llinyn. Mae'r gwaharddiad yn cynnwys balwnau bioddiraddadwy oherwydd nad yw balwnau'n gallu dirywio'n ddigon cyflym i beidio â pheri risg i fywyd gwyllt.

 Rydym yn deall y gall fod gan bobl resymau gwahanol dros gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyddhau balwnau a drefnir; fodd bynnag, mae gweithgareddau eraill y gellir eu gwneud. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhau balwnau rhithiol, cerflunio â balwnau neu ddigwyddiadau 'popian balŵn' dan do. O ran digwyddiadau coffa, mae cynnau canhwyllau neu chwythu swigod wedi profi'n boblogaidd fel dewis amgen. Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i ystyried yr opsiynau eraill hyn, a fydd yn osgoi achosi niwed diangen i'n bywyd gwyllt.

 Mae'r cyngor yn cefnogi ymgyrch 'Don't Let Go' y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac mae llawer o gynghorau eraill ar draws Cymru a'r DU yn gwneud hynny hefyd. Gobeithiwn y bydd camau gweithredu Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater ac yn annog cynghorau eraill i gymryd ymagwedd debyg.