Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymholiadau cyffredin am fywyd gwyllt

Mae'r rhestr isod yn cynnwys ymholiadau cyffredin am fywyd gwyllt. Os nad yw'r rhain yn ateb eich cwestiwn, cysylltwch â'r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt.

Moch Daear

Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd yn erbyn bywyd gwyllt, ffoniwch linell 101 yr heddlu. Caiff moch daear a'u brochfeydd eu gwarchod gan y gyfraith. Am fwy o wybodaeth, gweler Moch Daear a'r Gyfraith

Am fwy o wybodaeth am foch daear, ewch i wefan Yr Ymddiriedolaeth Moch Daear.

Mae moch daear Ewropeaidd (Meles meles) yn hawdd eu hadnabod gyda’u marciau du a gwyn ac maent yn rhywogaeth swil fel rheol. Maent yn anifeiliaid nosol, ond weithiau fe'u gwelir yn y bore bach a'r cyfnos. Mae moch daear yn anifeiliaid cymdeithasol ac maent yn byw mewn grwpiau teuluol, a elwir yn ‘llwythau’. Bydd y teulu'n defnyddio'r un llwybrau at diroedd bwydo drwy gydol eu bywydau, hyd yn oed pan fydd rhwystrau megis ffensys, ffyrdd ac adeiladau'n cael eu codi arnynt.

Mae moch daear yn hollysol a byddant yn bwyta amrywiaeth o fwyd, gan gynnwys mwydod (eu prif ddeiet), mamaliaid bach, lindys, ffrwythau, bylbiau ac aeron. Pan fydd bwyd yn brin, byddant yn chwilota mewn gerddi a biniau sbwriel, a all arwain at wrthdaro â phobl.

Mae Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru 2020 yn nodi bod statws cadwraeth moch daear yng Nghymru yn peri’r pryder lleiaf a bod eu rhagolygon yn dda.

Ystlumod

Os ydych wedi dod o hyd i ystlum sâl neu wedi'i anafu, ffoniwch linell gymorth yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ar 0845 1300 228. Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd yn erbyn bywyd gwyllt, ffoniwch linell 101 yr heddlu. Caiff pob rhywogaeth o ystlumod y DU a'u clwydfannau eu gwarchod gan y gyfraith. Am fwy o wybodaeth, gweler Ystlumod a'r Gyfraith.

Am fwy o wybodaeth am ystlumod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.

Mae ystlumod yn greaduriaid arbennig. Mae eu niferoedd yn dirywio a chânt eu gwarchod gan ddeddfwriaeth Ewrop a'r DU.

Nid yw ystlumod yn peryglu iechyd cyhoeddus oherwydd mai prin yw'r cyswllt rhyngddynt â phobl, hyd yn oed pan fyddant yn rhannu'r un adeiladau. 

Mae baw ystlumod yn sych ac yn briwsioni'n llwch. Nid oes unrhyw beryglon iechyd hysbys sy'n gysylltiedig ag ef.

Gan nad yw ystlumod yn adeiladu nythod, ychydig iawn o ddifrod a wneir i adeiladau ganddynt (os o gwbl); mae'n well ganddynt hongian neu ymgripio i agennau neu holltau.

Mae ystlumod yn ei gwneud hi'n haws i ni fwynhau nosweithiau'r haf gan eu bod yn bwyta amrywiaeth o blâu, yn enwedig gwybed.

Nid yw ystlumod yn ddall; mewn gwirionedd mae eu golwg yn eithaf da. Mae'n annhebygol iawn y byddant yn hedfan i'ch erbyn nac yn clymu yn eich gwallt - iddyn nhw, byddai hyn fel chi yn cerdded i erbyn wal!

Os ydych yn dod o hyd i ystlum yn y tŷ sy'n gallu hedfan, ceisiwch gau drws yr ystafell, agor y ffenestri cymaint â phosib a diffodd y golau. Bydd yr ystlum yn ceisio dianc o'r ystafell cyn gynted â phosib.

Gwenyn

Mae gan y DU oddeutu 590 o rywogaethau o wenyn, gwenyn meirch a morgrug sy'n rhan o'r urdd Hymenoptera. Am fwy o wybodaeth am y rhywogaethau sy'n anhysbys gan mwyaf, ewch i wefan y Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Gwenyn Meirch a Morgrug. Mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau yn beillwyr sy'n golygu eu bod yn hanfodol i'r economi. Maent yn fuddiol iawn i'n hamgylchedd ac felly nid ydym yn argymell cael gwared ar nythod.

Bydd y rhan fwyaf o gwestiynau a gawn yn ymwneud â rhywogaethau o wenyn mêl, cacwn a gwenyn meirch.

Gwenyn mêl - Am fwy o wybodaeth am sut i ddod o hyd i gasglwr heidiau, ewch i wefan Cymdeithas Gwenynwyr Prydain. Os ydych yn dod o hyd i haid, mae'n bwysig ei fod yn cael ei gasglu gan wenynwr cyn gynted â phosib.

Gwenyn - Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwenyn. Yn ystod y gwanwyn, efallai y byddwch yn gweld gwenyn mawr iawn yn chwilio am safleoedd i nythu. Y breninesau yw'r rhain. Maent yn deffro o'u gaeafgwsg ac mae angen bwyd arnynt ar frys. Gall plannu blodau sy'n para'r gaeaf a bylbiau'r gwanwyn helpu gwenyn. Os oes gennych nyth yn eich eiddo, byddai'n well ei adael nes bydd y gwenyn yn marw yn y gaeaf. Ni fyddant yn defnyddio'r un nyth y flwyddyn nesaf.

Gwenyn meirch - Dyma greaduriaid gwych i reoli plâu; maent yn bwyta pryfed, pryfed gleision, lindys a chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill. Maent hefyd yn benseiri anhygoel, gan greu celloedd chweonglog perffaith yn eu nyth â phren a gaiff ei drawsnewid yn bapur. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Buglife.

Am fwy o wybodaeth am sut i reoli gwenyn meirch, gweler ein tudalen Rheoli Plâu.

Adar

Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd yn erbyn bywyd gwyllt, ffoniwch linell 101 yr heddlu. Caiff holl adar y DU, eu nythod a'u hwyau eu gwarchod gan y gyfraith. Am fwy o wybodaeth, gweler Adar a'r Gyfraith.

Am fwy o wybodaeth am adar a chyngor ar sut i'w hannog, o osod blychau nythu i reoli cynefinoedd, ewch i wefan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.

Os oes gennych adar yn nythu yn eich tŷ, caiff y nyth hwnnw ei warchod hyd nes bydd y cywion wedi magu plu ac na ddefnyddir y nyth mwyach. Er y gall adar greu peth llanast, nid ydynt yn difrodi eitemau mewnol, megis gwifrau, ac felly gellir eu gadael i gwblhau eu cyfnod nythu. Os ydych am atal adar rhag nythu eto, arhoswch nes byddant wedi gorffen a symud y cywion ymaith yna llenwch y twll mynediad a ddefnyddiwyd ganddynt.

Cadnoid

Mae cadnoid wedi ymaddasu'n dda i fyw ger pobl. Cânt fynediad hawdd i fwyd o ganlyniad i'r gwastraff rydym yn ei daflu.

Os na chânt eu cornelu, mae cadnoid yn swil o flaen pobl yn aml. Gellir eu gweld yn ystod y dydd ond mae hyn fel arfer o ganlyniad i ddiffyg cyfleoedd bwydo yn ystod y nos.

I atal cadnoid, sicrhewch y caiff yr holl fwyd ei roi allan mewn blwch gwastraff bwyd ac y rhoddir unrhyw fwyd cath a chi mewn man diogel.

Draenogod

I gael gwybodaeth, neu i ddod o hyd i ofalwr ar gyfer draenog sy'n sâl neu sydd wedi'i anafu, cysylltwch â Chymdeithas Diogelu Draenogod Prydain.

Mae'r draenog yn gyfaill i'r garddwr am ei fod yn bwyta gwlithod a malwod. Fel rheol, bydd draenogod yn gaeafgysgu rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar y tywydd ac felly gallent ddechrau gaeafgysgu mor gynnar â mis Medi. Os ydych am adael bwyd allan i ddraenogod, mae bwyd anifeiliaid anwes â chig plaen ac ychydig o fwyd sych cathod yn addas iddynt. Fel arall, gallwch adael miwsli heb ei felysu neu Weetabix a llond llaw o resins ar eu cyfer. Dŵr ffres yw'r peth gorau i'w roi iddynt i yfed. Ond cofiwch y gall anifeiliaid eraill fwyta'r bwyd yma hefyd.

Mincod

Ni chaiff mincod eu gwarchod oherwydd nad ydynt yn frodorol, yn hytrach cawsant eu cyflwyno i'r DU o UDA. Mae rhyddhau minc Americanaidd yn anghyfreithlon o dan Atodlen 9 (Rhan I) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae mincod yn lladd pysgod, llygod y dŵr ac adar sy'n nythu ar y ddaear. Felly argymhellir y caiff mincod eu dal a'u difa er lles cadwraeth natur. Os cânt eu dal mewn modd trugarog, dylid nodi ei fod yn drosedd eu hailryddhau i'r gwyllt. Gallech ddod o hyd i gwmni lleol sy'n ymdrin â dal a difa'r rhywogaeth hon. Sicrhewch nad ydych yn drysu rhwng mincod a dyfrgwn oherwydd caiff dyfrgwn eu gwarchod gan y gyfraith.

Gwaddod

Nid yw gwaddod yn cael eu hystyried yn blâu. Argymhella'r Uned Bioamrywiaeth y dylid defnyddio teclynnau sonig i'w hatal gan nad ydynt yn hoffi dirgryniad. Pan fyddant yn defnyddio'ch gardd, beth am ddefnyddio'r pridd o ansawdd da maent yn ei gloddio i lenwi'ch potiau, eich borderi a'ch basgedi? Nid yw'n syniad da defnyddio nwyddau cemegol i'w hatal oherwydd byddai'n debygol o effeithio ar y bywyd gwyllt buddiol sy'n byw yn eich gardd.

Dyfrgwn

Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd yn erbyn bywyd gwyllt, ffoniwch linell 101 yr heddlu. Mae dyfrgwn yn Rhywogaeth Ewropeaidd a Warchodir ac felly cânt eu gwarchod yn llawn gan y gyfraith. Am ragor o fanylion, gweler ein tudalennau Dyfrgwn a'r Gyfraith.

Os ydych yn gweld dyfrgi sydd wedi marw, rhowch wybod i Cyfoeth Naturiol Cymru. Os gwelsoch y dyfrgi ar gefnffordd, cysylltwch ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.

Mae dyfrgwn (Lutra lutra) wedi ymaddasu'n arbennig o dda i hela yn y dŵr gyda'u cyrff llyfn hir, eu cynffonau tebyg i lywiau bad a'u traed gweog. Mae'r dyfrgi'n un o anifeiliaid cigysol mwyaf Prydain. Er eu bod yn gyffredin ledled Cymru ar un adeg, lleihaodd poblogaeth y dyfrgi yn genedlaethol a diflannodd bron yn llwyr o ardal Castell-nedd Port Talbot rhwng y 1950au a’r 1970au. Digwyddodd y dirywiad hwn ar yr un pryd â defnyddio plaleiddiaid organoclorin yn helaeth am y tro cyntaf. Ar ôl i’r boblogaeth ymadfer yn ystod diwedd y 1980au/dechrau’r 1990au - yn bennaf o ganlyniad i welliannau yn ansawdd dŵr afonydd - mae dyfrgwn i’w gweld bellach ger prif afonydd ac isafonydd, ym mhob camlas, wrth Ffen Pant-y-Sais ac mewn morfeydd heli yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Planhigion

Am fwy o wybodaeth, gweler tudalen Llywodraeth y DU ar atal chwyn niweidiol a phlanhigion ymledol anfrodorol rhag ymledu ac Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol PF.

Canclwm Japan

Mae canclwm Japan yn rhywogaeth ymledol. Mae plannu canclwm Japan neu beri iddo ledaenu yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981). Daw'r holl wastraff sy'n cynnwys canclwm Japan o dan Reolaeth Rhan II Deddf Diogelu’r Amgylchedd (1990) ac o ganlyniad mae'n rhaid cael gwared arno mewn safle gwaredu gwastraff â thrwydded addas. Ni ddylid ei roi yn y bagiau gwyrdd a ddarperir ar gyfer gwastraff gardd megis toriadau glaswellt a pherthi. Am ragor o gyngor, darllenwch dudalennau Planhigion Ymledol Llywodraeth y DU.

O dro i dro, bydd y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn mynd ati i gael gwared ar ganclwm Japan o safleoedd lle mae diddordeb bioamrywiaeth. Cysylltwch â'r tîm am fwy o wybodaeth.

Nid yw CBSCNPT yn cael gwared ar ganclwm Japan o dir preifat.

Ffromlys Chwarennog

Mae'r ffromlys chwarennog yn rhywogaeth ymledol. Mae plannu ffromlys chwarennog neu beri iddo ledaenu yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981).

Am ragor o gyngor, darllenwch dudalennau Planhigion Ymledol Llywodraeth y DU.

O dro i dro, bydd y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn mynd ati i gael gwared ar ffromlys chwarennog o safleoedd lle mae diddordeb bioamrywiaeth. Cysylltwch â'r tîm am fwy o wybodaeth.

Nid yw CBSCNPT yn cael gwared ar ffromlys chwarennog o dir preifat.

Llysiau'r Gingroen

Mae llysiau'r gingroen yn blanhigyn brodorol sydd â llawer o fuddion i fywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae'n wenwynig i dda byw a cheffylau. Drwy ei reoli'n gywir, gellir ei waredu o safleoedd pori gan ei gadw fel elfen fuddiol i fioamrywiaeth mewn ardal fwy addas.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi 3 chategori perygl ar gyfer llysiau'r gingroen:

  • Perygl uchel - pan fo llysiau'r gingroen yn blodeuo neu'n hadu o fewn 50 metr i dir lle mae ceffylau neu anifeiliaid eraill yn pori neu le cynhyrchir porthiant.
  • Perygl canolig - pan fo llysiau'r gingroen yn bresennol o fewn 50 i 100 metr o dir lle mae ceffylau neu anifeiliaid eraill yn pori neu le cynhyrchir porthiant.
  • Perygl isel - pan fo llysiau'r gingroen, neu'r tir lle mae'n bresennol, dros 100 metr oddi wrth dir lle mae ceffylau neu anifeiliaid eraill yn pori neu le cynhyrchir porthiant.

Pan fo llysiau'r gingroen yn tyfu mewn ardal perygl isel, argymhellwn y dylid ei adael yn ei le gan fod ganddo fuddion helaeth i fioamrywiaeth.

Gweler tudalen Llywodraeth y DU ar atal chwyn niweidiol a phlanhigion ymledol anfrodorol rhag ymledu am fwy o wybodaeth.

Nadroedd

Caiff ymlusgiaid eu gwarchod gan y gyfraith. Am fwy o wybodaeth, gweler Ymlusgiaid a'r Gyfraith.

Mae gan CNPT 4 rhywogaeth o ymlusgiaid - y neidr ddefaid, y fadfall, neidr y glaswellt a'r wiber.

Am fwy o wybodaeth a chymorth i'w hadnabod, lawrlwythwch ein taflen Amffibiaid ac Ymlusgiaid yn CNPT am ddim.

Os ydych wedi dod o hyd i ymlusgiad yn eich gardd, ystyriwch a oes wirioneddol angen ei symud. Madfallod heb goesau yw nadroedd defaid, ond yn aml bydd pobl yn meddwl mai nadroedd go iawn ydynt. Maent yn bwyta gwlithod a gallant fod yn ychwanegiad gwych at eich gardd.

Nid yw nadroedd y glaswellt yn beryglus. Maent yn hoffi dod o hyd i leoedd cynnes i dorheulo ger y dŵr gan eu bod yn bwyta mamaliaid bach ac amffibiaid yn bennaf. Gallant ddefnyddio'ch tomen gompost i ddodwy eu hwyau ynddynt.

Gwiberod yw unig nadroedd gwenwynig y DU. Gellir dod o hyd i wiberod yn nifer o ardaloedd yn CNPT, yn enwedig ger Cwm Afan ac ym Mhort Talbot. Gall eu gwenwyn gael effaith annymunol ar bobl, ond nid yw'n berygl i fywyd. Dim ond os aflonyddir arnynt neu os cânt eu cythruddo y gwnaiff gwiberod frathu, a chaiff perygl y brathiad ei orbwysleisio'n aml. Os ydych allan yn cerdded ac mae gwiber yn eich brathu chi neu'ch anifail anwes, cofiwch mai chi oedd yn ei chynefin hi a cheisio amddiffyn ei hun yn unig oedd y neidr. Ond dylech gael cymorth meddygol cyn gynted â phosib rhag ofn.

O ganlyniad i'w gofynion cynefin penodol, anaml y deuir ar draws gwiberod mewn gerddi. Os ydych yn dod o hyd i wiber ar eich eiddo, gadewch iddo gynhesu yn yr haul a symudwch oddi yno. I'w hatal rhag dod i'ch gardd, cadwch stribyn wedi'i dorri'n fyr o amgylch yr ymylon; byddai'n well ganddi beidio â chroesi hwn.

Am fwy o wybodaeth am yr ymlusgiaid yn eich ardal, dewch o hyd i'ch Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid.

Corynnod

Mae pobl wedi byw gyda chorynnod erioed ac mae rhai pobl yn eu hofni'n ddifrifol. Nid oes unrhyw gorynnod peryglus nac ymosodol yn y DU.

Mae corynnod yn ysglyfaethwyr gwych, a buan iawn y byddem yn sylwi petaent yn diflannu. Mae nifer ohonynt yn byw gyda ni er nad ydym yn gwybod amdanynt.

Yn ystod yr hydref, mae corynnod tŷ yn fwy amlwg wrth iddynt grwydro o amgylch y tŷ yn chwilio am gymar.

Mae corynnod o'r enw gweddwon ffug yn codi sawl gwaith yn y newyddion, ond rydych yn annhebygol iawn o weld un er eu bod yn byw mewn tai. Mae'r rhain yn gorynnod sgleiniog, hardd a chânt eu camgymryd am gorryn y weddw ddu yn aml; dyma darddiad yr enw. Er y gallant frathu pobl, byddai'n rhaid eu cythruddo er mwyn peri iddynt wneud hyn ac nid yw'r brathiad yn waeth na chael eich pigo gan wenynen.

I gael y ffeithiau am frathiadau corynnod, ewch i dudalen Buglife am frathiadau corynnod.

Gwiwerod

Ni chaiff gwiwerod llwyd eu gwarchod gan eu bod yn anifeiliaid anfrodorol a gyflwynwyd yma. Os cânt eu canfod yn eich eiddo, maent wedi dod i mewn drwy dyllau yn y to neu o dan estyll tywydd. Dylid llenwi'r tyllau hyn i'w rhwystro. Gall gwiwerod ddifrodi ceblau trydanol oherwydd eu bod yn hoffi cnoi drwyddynt.

Tan yn ddiweddar, roedd dyletswydd gyfreithiol ar unrhyw un fyddai'n dal gwiwer lwyd i'w lladd er mwyn helpu i gadw'r rhywogaeth goch frodorol. Mae'r ddeddfwriaeth hon bellach wedi cael ei diwygio gan alluogi pobl i ryddhau'r anifeiliaid i'w gwyllt, ond mae'n rhaid iddynt gael trwydded i wneud hynny.