Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Moch Daear a'r gyfraith

Ceir moch daear yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys mewn ardaloedd trefol, ac eithrio canol trefi a'r llain arfordirol.

Gwarchodir moch daear o dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, sy'n cynnwys gwarchod y frochfa, ac Atodlen 6 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981Mae Atodiad III, Erthygl 7 Confensiwn Bern yn nodi bod poblogaeth y moch daear ym Mhrydain yn werthfawr o ran cadwraeth ryngwladol y rhywogaeth. Caiff moch daear eu gwarchod i raddau o dan Ddeddf Hela â Chŵn 2004 hefyd.

Troseddau:

  • Lladd, anafu, cymryd, meddiannu neu gam-drin mochyn daear yn greulon neu'n fwriadol, neu ymgeisio i wneud hynny.
  • Difrodi neu ddinistrio brochfa.
  • Atal mynediad i frochfa.
  • Tarfu ar fochyn daear pan mae mewn brochfa.
  • Tramgwyddau sy'n ymwneud ag erledigaeth.

Os gwneir unrhyw weithredoedd sy'n arwain at unrhyw un o'r uchod, bydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith. Os bydd hyn yn arwain at erlyniad, gellir codi dirwyon o tua £5,000 neu garcharu'r troseddwr am 6 mis.

Eithriadau:

  • Cymryd mochyn daear anabl er mwyn gofalu amdano.
  • Lladd mochyn daear sâl neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol mewn trugaredd.
  • Lladd mochyn daear pan nad oes modd ei osgoi o ganlyniad damweiniol i weithred gyfreithlon.
  • Os gellir dangos y cymerwyd camau gweithredu mewn argyfwng er mwyn atal difrod difrifol i eiddo.

I weld rhestr lawn o eithriadau, ewch i Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992.

Ni chyflawnir trosedd os ceir trwydded gan Lywodraeth Cymru i wneud unrhyw weithredoedd a waherddir gan y ddeddf, ar yr amod y cydymffurfir ag amodau'r drwydded.

Mwy o Wybodaeth: