Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Canol tref Port Talbot

Croeso i Bort Talbot, canolbwynt dramatig o weithgarwch yng nghanol De Cymru

Gyda hanes cyfoethog yn dyddio'n ôl ganrifoedd, mae Port Talbot wedi bod yn ganolfan diwylliant ac adloniant ers amser maith. Heddiw mae treftadaeth amrywiol ac ysbryd cyfoes y dref yn cael eu hadlewyrchu yn ein hystod eang o:
  • siopau annibynnol
  • bwytai
  • atyniadau

Mae gan Ganol Tref Port Talbot rywbeth ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Mae'n lle perffaith i dreulio diwrnod yn crwydro. Felly beth am ddod i weld y cyfan sydd gan y dref gyffrous hon i’w gynnig.

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Siopa

Mae amrywiaeth eang o siopau ar hyd ein strydoedd i gerddwyr a Chanolfan Siopa Aberafan.

Gallwch ddod o hyd i bopeth o frandiau stryd fawr adnabyddus i fanwerthwyr annibynnol.

Bwyd a diod

Os ydych chi'n teimlo'n newynog, mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt yng nghanol ein tref.

Mae ein bwytai a'n caffis yn gweini popeth o brydau Cymreig traddodiadol i ffefrynnau rhyngwladol.

Theatr y Dywysoges Frenhinol

Mae gan Bort Talbot sîn gelfyddydol a diwylliant lewyrchus.

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol, a enwyd er anrhydedd i'r Dywysoges Anne, yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn.

Y Plaza Newydd

Mae’r Plaza Newydd, a drawsnewidiwyd yn ddiweddar yn adeilad art-deco rhestredig Gradd II, bellach yn ganolbwynt cymunedol o gyfleusterau, sy’n cynnwys:

  • tai
  • theatr
  • campfa
  • caffi
  • canolbwynt busnes
  • ystafelloedd amlbwrpas
  • stiwdio recordio digidol

Celfyddydau a diwylliant

Mae'r dref wedi cynhyrchu llawer o berfformwyr dawnus a enillodd enwogrwydd rhyngwladol. Ymhlith y rhai mwyaf nodedig mae:

  • Syr Anthony Hopkins, enillydd Oscar gyda gyrfa sy'n ymestyn dros bum degawd
  • Richard Burton, sy'n adnabyddus am ei bresenoldeb blaenllaw a'i lais bythgofiadwy
  • Michael Sheen, seren enwog y llwyfan a'r sgrin

Hamdden

2.5 milltir o ganol y dref fe ddewch chi o hyd i Ganolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan.

Y lle perffaith i ddysgu sut i:

  • nofio
  • Cadw'n heini
  • ymlacio

Mae'r lleoliad hefyd yn gartref i gaffi deniadol i bawb sy'n ymweld â'r traeth yn ogystal â defnyddwyr y ganolfan.

Llyfrgell

Mae ein llyfrgell yn cynnig hafan o wybodaeth a lle croesawgar i ddarllen a dysgu gyda:

  • llyfrau
  • adnoddau digidol
  • digwyddiadau

Glan y môr Aberafan

nepell i ffwrdd, mae Glan y môr Aberafan yn cynnig profiad arfordir prydferth, gyda’i:

  • traeth tywodlyd eang
  • promenâd bywiog
  • golygfeydd o sianel Bryste

Trafnidiaeth

Mae cyrraedd canol tref Port Talbot yn hawdd: