Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Traeth Aberafan

Ynglŷn â'r traeth

Glan y môr Aberafan yw un o draethau hiraf Cymru gyda promenâd cyfoes sy'n edrych dros Fae Abertawe. Mae'r lle hwn yn boblogaidd beth bynnag fo'r tywydd, yn y gaeaf mae’r promenâd yn llawn o gerddwyr wedi gwisgo’n gynnes, ac yn yr haf, mae’r traeth yn denu addolwyr haul.

Gwelodd y mileniwm newydd adfywiad o'r ardal - gan gynnwys ystadau tai preifat modern a chartrefi gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe. Mae blaen y traeth wedi cael ei hail-adeiladu i wella ei atyniad, gyda piazza, parc sglefrio, maes chwarae antur a thoiledau cyhoeddus. Sefydlwyd chwe-sgrîn sinema a agorwyd ger glan y môr yn 1998, nesaf at y Lido Afan.Mae Aberafan yn fan syrffio poblogaidd 'beth bynnag yw mis o'r flwyddyn, rydych yn sicr o ddod o hyd i dorf o syrffwyr sydd yn chwilio am y don berffaith!  Mae yna nifer o chwaraeon dŵr eraill ar gael hefyd, megis hwylfyrddio, syrffio barcud a chaiacio.

Nid yw diwrnod ar draeth Aberafan yn gyflawn heb fag o sglodion, ac ar gyfer y rhai sy'n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol mae yna nifer o dafarndai ar hyd y promenâd. Yn ogystal, mae'r traeth wedi cael ei hadfywio drwy gyflwyno cerfluniau modern.

Gellir cyrraedd y traeth mewn car, bws ac ar droed, gyda pharcio ar gael ar hyd y promenâd ar gyfer sawl car. Mae gwaharddiad rhannol ar gŵn sy'n gweithredu rhwng Mai - Medi.

Toiledau

Mae'r toiledau ar Draeth Aberavon ar agor rhwng 8.30yb - 6.30yp gyda mwy o gyfundrefnau glanhau.

Nid oes cynorthwywyr parhaol yn y toiledau. Anogir pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain trwy ddilyn yr arwyddion a'r marciau llawr sydd ar waith.

Gwahardd cŵn traeth Aberavon

Mae cyfyngiad cerdded cŵn traeth Aberavon ar waith ar hyn o bryd. Mae hyn yn atal cŵn rhag mynd i mewn i ran ddynodedig o'r traeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn fod ar dennyn bob amser. Gellir dirwyo perchnogion cŵn am fethu â dilyn y gorchymyn.