Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Apelio am dderbyn i’r ysgol

Dyrennir lle i’r rhan fwyaf o ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot yn yr ysgol a nododd eu rhieni fel dewis cyntaf. Fodd bynnag, os nad yw’n bosibl cynnig lle yn yr ysgol honno, yna cynigir lle iddynt mewn ysgol arall. Yna, y rhieni fydd yn penderfynu naill ai i dderbyn y lle yn yr ysgol arall neu i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn.

Os yw rhieni'n anfodlon â chanlyniad cais am ysgol Gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i Banel Apêl, sy'n annibynnol or Adran Derbyn a'r Cyngor.

Sut I Apelio

Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig.

Os byddwch yn apelio, byddwn yn gofyn panel i ystyried eich achos. Rhaid i'r panel gynnwys rhwng tri a phum aelod.

  • pobl sy’n gymwys i fod yn aelodau lleyg (pobl heb brofiad personol o reoli’r ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol, ac eithrio profiad fel llywodraethwr neu unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall)
  • pobl sydd â phrofiad ym myd addysg; sy’n gyfarwydd â’r amodau addysgol yn ardal yr ALI (neu, yn achos ysgol a Gynorthwyir, yr ardal y mae’r ysgol wedi’i lleoli ynddi); neu sy’n rhieni plant sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol (ac eithrio’r ysgol lle gwneir yr apêl)

Rhaid i baneli apęl annibynnol yn cosider pob achos yn unigol.

Bydd penderfyniad y panel apêl yn ymrwymo’r cyngor a'r llywodraethwyr ysgol.

Am bob ymholiad arall, ffoniwch y Tîm Derbyniadau Ysgolion:

Tîm Derbyniadau Ysgolion
(01639) 763580 (01639) 763580 voice +441639763580
(01639) 763730 (01639) 763730 voice +441639763730