Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hysbysiad archwilio - Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

Rheoliadau cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014

Hysbysiad archwilio lle nad yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi gallu ardystio'r cyfrifon am nad yw'r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â'r terfynau amser diwygiedig a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru.

Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Swyddog Ariannol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu lofnodi a dyddio datganiad drafft o gyfrifon Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac ardystio ei fod yn cyflwyno safbwynt gwir a theg o sefyllfa ariannol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi ac o incwm a gwariant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau hyn erbyn 31 Mai 2023.

Nid yw Prif Swyddog Ariannol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi llofnodi nac ardystio'r cyfrifon drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn paratoi Datganiad o Gyfrifon drafft ar neu cyn 31 Gorffennaf 2023, yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Llywodraeth Cymru, yn dilyn hysbysiad o amseru archwilio diwygiedig gan Archwilio Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.