Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefnogaeth Treth y Cyngor

Os oes angen cymorth neu gyngor ar unrhyw un mewn perthynas â Budd-dal tai a / neu gymorth Treth y Cyngor ffoniwch 01639 686838 (9.30am – 4.30pm) neu e-bostiwch housing.benefits@npt.gov.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn

Pwy all wneud cais?

Gallwch fod yn gymwys am gefnogaeth Treth y Cyngor os ydych yn ennill incwm isel. Ni allwch hawlio os oes gennych arbedion o dros £16,000 oni bai eich bod dros 60 oed ac yn derbyn yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn.

Gallwch hawlio cefnogaeth Treth y Cyngor os ydych yn gweithio.

Bydd swm y budd-dal y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar:

  • gyfanswm eich incwm wythnosol;
  • cyfanswm eich arbedion;
  • faint o blant dibynnol sydd gennych; a
  • faint o bobl annibynnol sy'n byw gyda chi a'u hincwm hwy.

Mwy o wybodaeth: Arweiniad i gefnogaeth Treth y Cyngor

Sut i wneud cais

Dych chi'n gallu defnyddio'r ffurflen ar-lein isod, neu ffonio'r adran budd-daliadau ar 01639 686838 (9.30am – 4.30pm).