Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Caniatad sgip

Os ydych yn dymuno i osod sgip ar unrhyw ran o'r briffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded sgip.

Rhaid i chi fod yn weithredwr sgip cofrestredig a bydd angen i chi gofrestru fel cludwr gwastraff gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Faint fydd yn ei gostio?

Y ffi bresennol am drwydded sgip yw £52.50 (bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch) mae trwyddedau sgip yn ddilys am 28 diwrnod. Os ydych yn dymuno ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod cychwynnol, rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.

Sut i wneud cais?

Gallwch wneud cais am drwydded sgip ar-lein.

Llawrlwytho

  • Cais am ganiatâd i osod sgip adeiladwr ar briffordd (DOCX 43 KB)

    i.Id: 4655
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Cais am ganiatâd i osod sgip adeiladwr ar briffordd
    mSize: 43 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/xh0f4cyj/skip-application-form-cymraeg.docx

  • Hawlenni sgip - amodau a thelerau (DOCX 42 KB)

    i.Id: 4656
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Hawlenni sgip - amodau a thelerau
    mSize: 42 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/bfolw5xt/skip_regulations_2017_w.docx

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Faint o amser a gymer i brosesu'r cais?

Fel arfer caiff ceisiadau eu prosesu o fewn tri i bum niwrnod gwaith.

Archwilir pob cais yn unigol, i wirio addasrwydd y lleoliad arfaethedig. Dylai gweithredwyr sgip aros am gymeradwyaeth cyn gosod sgip ar y briffordd. Unwaith y cymeradwyir sgip, bydd yr adran yn cysylltu â'r ymgeisydd i'w hysbysu o'r canlyniad, ac os oes unrhyw amodau ychwanegol yn berthnasol.

A yw caniatâd dealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais yn cael ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 10 diwrnod gwaith o'u derbyn cais wedi'i gwblhau'n llawn.

Os ydw i'n cael fy gwrthod, sut ydw I'n apelio?

Nid oes gweithdrefn apelio. Atgoffir gweithredwyr sgip na ddylent rhoi sgip ar y Briffordd os yw wedi ei wrthod gan yr Awdurdod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw benderfyniadau, cysylltwch â'r adran gwaith stryd ar 01639 686338.

Sut ydw i'n rhoi gwybod i chi am newidiadau mewn amgylchiadau?

Cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd, i rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Adran Gwaith Stryd
Y Ceiau Ffordd Brunel,
Llansawel Castell-nedd
SA11 2GG pref
(01639) 686338 (01639) 686338 voice +441639686338