Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwaith Arall ar y Briffordd

Os bydd unrhyw fusnes am feddiannu'r briffordd mewn cysylltiad â gwaith adeiladu neu ddibenion eraill, rhaid iddynt wneud cais i'r awdurdod am ganiatâd dan Ddeddf Priffyrdd 1980.

Mae angen caniatâd ar gyfer gwaith sy'n cynnwys cloddio ar y briffordd, hysbysfyrddau, peiriannau mynediad, gynwysyddion storio, swyddfeydd safle, etc.

Amodau ar gyfer cymeradwyo ceisiadau

Rhaid bod gan fusnesau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol gwerth o leiaf £5 miliwn ac mae'n rhaid dilyn unrhyw amodau a osodir.  Mae caniatâd yn dibynnu ar amodau sy'n berthnasol i leoliad y gwaith arfaethedig; goleuo a mesurau diogelu; gwelededd; a mynediad i gerddwyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran Gwaith Stryd i drafod y gwaith arfaethedig. 

Sut rwy'n gwneud cais?

Manylion cyswllt

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Adran Gwaith Stryd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Y Ceiau Ffordd Brunel Llansawel Castell-nedd SA11 2GG pref
(01639) 686338 (01639) 686338 voice +441639686338

Faint o amser bydd ei angen i brosesu fy nghais?

Rhaid i ni gael o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o rybudd i wirio'r safle arfaethedig a phrosesu'r cais.

Fel arfer bydd ceisiadau yn cael eu prosesu o fewn 5 niwrnod gwaith.

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn amser rhesymol, yna cysylltwch â'r Adran Gwaith Stryd.

Os yw fy nghais yn cael ei wrthod, sut mae apelio?

Nid oes cam apelio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw benderfyniad, cysylltwch â'r Adran Gwaith Stryd.