Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tir halogedig

Mae llygredd tir yn codi yn bennaf ar ystod eang o waith diwydiannol, cloddio neu weithgareddau gwaredu gwastraff. Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi etifeddu etifeddiaeth o dir o'r fath yn dyddio yn ôl i pan ddechreuodd dwf diwydiannol yn y 16eg ganrif.

Gas works

Yn dilyn cyflwyno Rhan IIIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ym mis Gorffennaf 2001, mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd i arolygu ei ardal am dir llygredig ac, os oes angen, sicrhau yr adferir safleoedd llygredig hanesyddol yn eu hardal.

Mae'r Tîm Tir Llygredig yn ymgymryd dyletswyddau hyn ar ran y Cyngor ac wedi cyhoeddi Strategaeth Arolygu Tir Llygredig.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd hefyd i gyhoeddi Cofrestr o'r holl gamau gorfodi a gymerwyd o dan Ran 2A.

Gall hyn gael ei gweld yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ. Mae'r gofrestr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa arferol, bydd mynediad at y gofrestr yn cael ei ddarparu am ddim i aelodau'r cyhoedd er y bydd tâl bychan am lungopïo.

Gall trefniadau i weld y gofrestr cael eu gwneud drwy gysylltu â'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ar Ffôn: 01639 763345 E-bost: landcharges@npt.gov.uk.

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Tim Tir Llygredig
Uned Newid yn yr Hinsawdd y Ceiau Ffordd Brunel,
Parc Ynni Baglan
Port Talbot Castell-nedd Neath Port Talbot SA11 2GG pref
(01639) 685678 (01639) 685678 voice +441639685678

Mwy o wybodaethw

  • Environment Agency logo
  • Health Protection Agency logo
  • Defra logo
  • Welsh Government logo