Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ansawdd aer yn ein hardal

Ansawdd aer yn ein hardal

Mae ansawdd aer da yn bwysig ar gyfer ein hamgylchedd a safon bywyd. Mae bywyd modern yn cyfrannu at nifer y sylweddau yn yr aer sy'n gallu effeithio ar iechyd planhigion, anifeiliaid a phobl, a gall gyfrannu at gynhesu byd-eang.

Pan fyddwn yn sôn am ansawdd aer, rydym yn golygu cyflwr yr awyr o'n cwmpas.

Rydym yn ymrwymo i fonitro amodau awyr presennol, gan weithredu ar ddigwyddiadau sy'n effeithio ar ein ansawdd aer, ac i wella amodau ansawdd aer ar gyfer pawb sy'n byw ac yn gweithio yma.

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd yr amgylchedd lleol drwy weithio i wella ansawdd aer a thrwy hynny ddiogelu a chyfoethogi'r amgylchedd.

Strategaeth Ansawdd Aer Castell-nedd Port

Ym mis Tachwedd 2013, yn dilyn ymgynghoriad helaeth, rydym wedi adolygu ein strategaeth ansawdd aer leol 'Airwise - Clean Air for Everyone'.#

Fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau yr awyr glanaf posibl yn ein Siarter Ansawdd Aer Castell-nedd Port Talbot, mae'r Cyngor yn benderfynol i ddod a chynnal pob ardal o'r Fwrdeistref Sirol o fewn y safonau cenedlaethol ar gyfer ansawdd aer.

Rydym yn darparu y ddata monitro a chanlyniadau ddiweddaraf am ansawdd aer a chyhoeddi nifer o adroddiadau monitro at ddibenion gwybodaeth ac ymchwil.

Beth rydym yn monitor

I'n helpu i wella'r aer a anadlwn, rydym yn monitro fel mater o drefn:

  • carbon monocsid neu CO (nwy diarogl trwm, di-liw, o ddiwydiant)
  • nitrogen deuocsid neu NO2 (sy'n bresennol mewn egsost cerbydau)
  • sylffwr deuocsid neu SO2 (nwy di-liw a gynhyrchir gan brosesau diwydiannol)
  • deunydd gronynnol a elwir hefyd yn PM10 (gronynnau bach yn yr awyr)
  • osōn (nwy di-liw syn digwydd yn naturiol)
  • metelau trwm (o ddiwydiant presennol a'r etifeddiaeth ddiwydiannol)

Ble rydym yn monitor

Mae gennym safleoedd monitro parhaus a leolir yn y mannau canlynol:

  • Gerddi Victoria yng Nghastell-nedd, lle yr ydym yn mesur nitrogen deuocsid o drafnidiaeth
  • Caeau Chwarae Little Warren ym Mhort Talbot, monitor diwydiannol sy'n mesur gronynnau PM10
  • Ysgol Dyffryn ym Margam, monitor diwydiannol sy'n mesur gronynnau PM10
  • Gorsaf Dân y Margam, monitor diwydiannol sy'n mesur allyriadau carbon monocsid, nitrogen deuocsid, osôn, PM10, PM2.5 gronynnol, sylffwr deuocsid
  • Dociau Port Talbot, monitor diwydiannol arall sy'n mesur lefelau PM10 gronynnol
  • Talbot Road, monitor ar ochr y ffordd sy'n mesur gronynnau PM10
  • Theodore Road, Margam, monitor diwydiannol sy'n mesur gronynnau PM10
  • Parc Twll-yn-y-Wal ym Mhort Talbot, monitor diwydiannol sy'n mesur gronynnau PM10
  • Prince Street ym Mhort Talbot, monitro diwydiannol sy'n mesur PM10 a PM2.5 gronynnol
  • Depo'r Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Pontardawe sy'n monitro nicel
  • Canolfan Hamdden Pontardawe, Pontardawe sy'n monitro nicel a rhai metelau trwm eraill
  • Cartref gofal Dan y Bryn, Pontardawe sy'n monitro nicel