Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pwynt cyswllt unigol oedolion a phlant

Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU) sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi.

Mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn eich cyfeirio at y gefnogaeth orau sydd ar gael i chi.

Pwrpas y gwasanaeth PCU yw gweithredu fel cyswllt cychwynnol i bobl y mae angen gwybodaeth a chyngor ynghylch iechyd a lles plant, teuluoedd ac oedolion arnynt. Gallwn dderbyn atgyfeiriadau a chynnig cymorth ynghylch y canlynol:

  • cefnogaeth a ddarperir gan y cyngor neu wasanaethau iechyd i blant, oedolion a theuluoedd
  • gwasanaethau cefnogi a ddarperir gan sefydliadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol i blant, oedolion a theuluoedd.
  • materion diogelu o ran amheuaeth bod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso (Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch uniongyrchol unigolyn, ffoniwch yr heddlu ar 999)

Cyswllt

I gysylltu â'r PCU, ffoniwch  (Ar agor rhwng 8.30am a 5pm ddydd Llun i ddydd Iau a 4.30pm ddydd Gwener) neu e-bostiwch spoc@npt.gov.uk.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn gweithredu 'system ffonio’n ôl' sy'n gofyn i bobl adael neges ac yna bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.

SPOC
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802
(Defnyddwyr Text Relay / Typetalk defnyddiwch 18001 yn gyntaf ac yna 01639 686802 i ddilyn)

Gall preswylwyr hefyd gael mynediad at wybodaeth am y gwasanaethau cefnogi a ddarperir gan sefydliadau cymunedol trwy chwilio'r cyfeiriadur ar-lein a elwir Dewis. I chwilio'r cyfeiriadur, ewch i www.npt.gov.uk/dewis neu www.dewis.cymru.

Gall pobl ifanc neu rieni sydd am gael gwybodaeth ynghylch yr hyn sydd ar gael yn lleol i bobl ifanc fynd i:

CNPT Pobl Ifanc