Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trefnu a chynllunio digwyddiad

Cyn trefnu digwyddiad cyhoeddus mawr, mae'n rhaid ystyried llawer o faterion, gan gynnwys y canlynol:- 

  • a oes gan drefnwr y digwyddiad unrhyw brofiad o gydlynu digwyddiadau cyhoeddus tebyg?
  • pwy sy'n berchen ar y tir lle cynhelir y digwyddiad ac a yw'n addas ar gyfer y math o ddigwyddiad sy'n cael ei gynllunio?  Os ydy'r cyngor yn berchen ar y tir, cysylltwch â'n Hadran Ystadau ar y dudalen Cysylltiadau. Cewch eich cynghori ar ganiatâd ac unrhyw ffïoedd sy'n daladwy.
  • a fydd angen cau ffyrdd ar gyfer y digwyddiad, neu a fydd y digwyddiad yn effeithio ar lif traffig? Os ydych chi'n trefnu gorymdaith, yn gwneud cais i gau ffyrdd, yn cynnal digwyddiad ar briffordd, neu os bydd yn effeithio ar lif traffig, mae'n rhaid i chi ateb y cwestiynau sy'n perthyn i'r elfennau hyn yn adrannau Traffig/Priffyrdd perthnasol y Ffurflen Cofrestru Digwyddiad, a glynu wrth y gofynion a amlinellir ynddynt.
  • mae'n rhaid cyflwyno cais i gau ffordd o leiaf 8 wythnos cyn y digwyddiad, a chynnwys Cynllun Rheoli Traffig. Mae'n rhaid bod y trefnydd hefyd wedi ffonio'r Is-adran Traffig ar 01639 686013 cyn cyflwyno'r Ffurflen Cofrestru Digwyddiad, neu bydd yr hysbysiad i gau ffordd yn cael ei wrthod. Dyma'r sefyllfa hefyd os yw'r digwyddiad wedi golygu cau ffordd yn y gorffennol. Cysylltwch ag Adran Priffyrdd CBSCNPT cyn gynted â phosib ar y dudalen Cysylltiadau.
  • oes gennych chi yswiriant?
  • pwy fydd yn cynnig darpariaeth feddygol cymorth cyntaf yn ystod y digwyddiad?
  • ydych chi wedi cwblhau'r Asesiadau Risg?
  • ydych chi wedi ystyried cost creu digwyddiad cyhoeddus diogel?
  • ydych chi'n sylweddoli bod trefnwyr digwyddiadau'n gyfrifol yn ôl y gyfraith am ddamweiniau, anafiadau neu farwolaethau yn eu digwyddiad?
  • oes gennych chi'r drwydded gywir/trwyddedau cywir?
  • ydych chi wedi hysbysu'r awdurdodau cywir?

Am arweiniad pellach, cyfeiriwch at The Purple Guide to Health & Safety  

Ceir mwy o fanylion a'r gweithredoedd angenrheidiol sy'n berthnasol i'r uchod yn yr adran Proses Digwyddiadau Arbennig.