Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Asesu risgiau

Wrth drefnu digwyddiad, mae'n hanfodol eich bod chi'n cwblhau'r asesiadau risg perthnasol. Nid ydym ni, fel awdurdod lleol, yn cyflenwi templedi o asesiadau risg i drefnwyr digwyddiadau, ond byddwn yn gallu darparu dolenni i ddogfennau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i'ch cynorthwyo chi gyda'r broses asesu risgiau. Gweler y dudalen Dolenni ar y wefan hon.

Yn yr hinsawdd bresennol, rydym yn argymell yn gryf fod trefnwyr yn ystyried mesurau lliniaru effaith cerbydau a mesurau gwrthderfysgaeth eraill megis diogelwch a stiwardiaid ychwanegol yn ystod digwyddiad lle bydd torf yn casglu. Nid rhoi braw yw'r bwriad, ond byddwn yn eich cynghori chi i roi Asesiadau Risg ar waith. Gweler y ddogfennaeth ‘Protect UK – Publicly Accessible Locations Guidance’ a ddarperir yn yr adran Dolenni.

Sylwer, nad yw'r Grŵp Digwyddiadau Arbennig/Rheoli Digwyddiadau/Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn gofyn i chi anfon eich asesiadau risg wedi'u cwblhau iddynt eu cymeradwyo, eu pwrpas yw i roi cyngor yn unig. Mae cadarnhad eich bod chi wedi cwblhau'r asesiadau risg angenrheidiol yn ddigon yn ystod y broses hon.