Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth am ddigwyddiadau

Gall gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r rhestr canlynol o ddigwyddiadau sy'n gallu cael eu cynnal yn yr ardal leol sy'n cael eu hystyried o werth gan yr awdurdod lleol:-

  • gorymdaith
  • gŵyl (bwyd/diod/thema/cerddoriaeth/diwylliannol)
  • ffair
  • digwyddiad rhedeg a drefnwyd ar raddfa ganolig neu fawr
  • cyngerdd
  • parti stryd
  • digwyddiad theatr fyw
  • casgliad o bobl â diddordebau tebyg mewn man cyhoeddus e.e. clwb cefnogwyr car arbennig
  • ffair Nadolig
  • arddangosfa Tân Gwyllt
  • diwrnod gweithgareddau milwrol
  • cymanfa
  • digwyddiad chwaraeon
  • arddangosfa/cystadleuaeth achubwyr bywydau
  • digwyddiad codi arian i elusen
  • syrcas
  • ail-greu brwydr ganoloesol

Gallwch chi frasamcanu lefel risg eich digwyddiad cynlluniedig eich hun wrth ddefnyddio'r canllaw sgorau yn nogfen Canllaw Diogelwch Digwyddiadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.  Gall hyn roi syniad i chi a fydd angen cymorth y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn ystod eich digwyddiad.

Os ydych chi'n hyderus na fydd angen ymyrraeth y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ar eich digwyddiad, ewch i'r dudalen Proses Digwyddiadau Arbennig.  Os ydych chi'n ansicr neu os hoffech chi ddysgu mwy am Ddigwyddiadau Arbennig, Rheoli Digwyddiadau a'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, ewch i'r dudalen Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

Mae rhai o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar gyfer digwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnwys:.

  • Parc Gwledig Margam (y rhif ffôn uniongyrchol yw 01639 881635);
  • Gerddi Victoria, Castell-nedd;
  • Sgwâr yr Angel a Sgwâr y Dref, Castell-nedd (y rhif ffôn uniongyrchol yw 01639 686906);
  • Sgwâr Ddinesig, Port Talbot;
  • Parc y Gnoll, Castell-nedd;
  • Traeth Aberafan;
  • Promenâd Aberafan

Mae ardaloedd gwahanol Castell-nedd Port Talbot dan gylch gwaith tirfeddianwyr gwahanol. Bydd y person y mae angen i chi gysylltu ag ef yn dibynnu ar le hoffech chi gynnal eich digwyddiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am bwy sy'n berchen ar y tir, ffoniwch yr Adran Ystadau ar 01639 686980 neu e-bostiwch property@npt.gov.uk

Hefyd, byddwch yn ymwybodol bod angen i chi gysylltu â'r tirfeddiannwr am ganiatâd i gynnal eich digwyddiad ar y tir cyn cofrestru eich digwyddiad.