Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch

Pwy yw'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi sefydlu Grŵp Digwyddiadau Arbennig a Rheoli Digwyddiadau o fewn yr Is-adran Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, er mwyn goruchwylio cofrestru digwyddiadau awyr agored sy'n cael eu cynnal yn y fwrdeistref sirol. Prif rôl y Grŵp Rheoli Digwyddiadau yw darparu cyngor arbenigol o fewn yr awdurdod lleol i'w helpu i ddirprwyo ei ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth digwyddiadau cyhoeddus. Bydd y grŵp yn ystyried yr holl faterion o fewn ei gylch gwaith ac yn cynnig argymhellion i unrhyw bwyllgor/wasanaeth priodol yn yr awdurdod lleol.

O fewn Digwyddiadau Arbennig/Rheoli Digwyddiadau, mae'r awdurdod lleol hefyd wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn ceisio annog trefnu digwyddiadau yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae hefyd yn sicrhau yr ystyrir diogelwch ac yn y pendraw lwyddiant cyffredinol y digwyddiad a gynhelir.

Bwriad y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yw rhoi ymagwedd safonedig ar waith at ddigwyddiadau a drefnir yn yr awdurdod lleol, gan roi'r cyngor a'r arweiniad angenrheidiol i bob digwyddiad. Oherwydd natur y cyrff sy'n rhan o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, rydym yn argymell eich bod chi'n dilyn y cyngor am ddim sy'n cael ei ddarparu, er eich lles chi.

Pryd bydd angen y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch?

Yn gyffredinol bydd angen i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch gynghori ar broses trefnu digwyddiadau lle disgwylir mwy na 500 o bobl, gan gynnwys yr aelodau staff sy'n bresennol yn y digwyddiad hwnnw. Ond, weithiau pan all rhan o'r digwyddiad a drefnir gael ei ddehongli fel perygl posib, bydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch hefyd yn rhoi cyngor, hyd yn oed os bydd cyfanswm o lai na 500 o bobl a staff yn bresennol. Os nad yw'r safonau'n cael eu bodloni i fod yn gymwys am ymyrraeth y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, bydd angen o hyd i'ch digwyddiad fynd trwy'r broses Rheoli Digwyddiadau.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn bartneriaeth ymgynghorol rhwng yr awdurdod lleol a gwasanaethau brys yr ardal, gan gynnwys yr Heddlu, y gwasanaeth Diogelwch Tân a'r Gwasanaeth Ambiwlans Lleol. Os ydych chi eisiau cysylltu â'r tîm Rheoli Digwyddiadau/Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch, e-bostiwch specialevents@npt.gov.uk.