Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dyfrgwn a’r gyfraith

Mae dyfrgwn i'w gweld ger y prif afonydd ac isafonydd, ym mhob camlas, wrth Ffen Pant-y-Sais ac mewn morfeydd heli yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae dyfrgwn yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop a chânt eu gwarchod o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

Troseddau:

  • Lladd, anafu neu drin dyfrgi.
  • Tarfu ar ddyfrgi pan fydd yn ei loches (gwâl) neu fan gorffwys.
  • Rhwystro, difrodi neu ddinistrio'r mannau lle mae dyfrgwn yn byw.
  • Meddiannu, rheoli, cludo, gwerthu, cyfnewid neu gynnig i werthu/cyfnewid unrhyw ddyfrgi, boed fyw neu farw, neu unrhyw ran o ddyfrgi.
  • Caethiwo dyfrgi.

Os gwneir unrhyw weithredoedd sy'n arwain at unrhyw un o'r uchod, bydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith.

Os bydd hyn yn arwain at erlyniad, gellir garcharu'r troseddwr am 6 misa/neu dirwy.

Eithriadau a rhanddirymiadau:

Mae sawl eithriad lle gellir gwneud gweithredoedd o'r fath heb gyflawni trosedd:

  • Gallwch ofalu am ddyfrgi sydd wedi'i anafu er mwyn ei ryddhau pan fydd wedi gwella neu gallwch ladd dyfrgi sydd wedi dioddef anaf mor ddifrifol fel nad oes unrhyw bosibilrwydd rhesymol y bydd yn gwella.
  • Os yw unrhyw weithredoedd neu waith, megis datblygiad ger cwrs dŵr neu waith lliniaru llifogydd, yn debygol o effeithio ar ddyfrgwn, yna mae'n bosib y gellir cael trwydded (rhanddirymiad) gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i chi wneud gwaith, gan ddibynnu ar roi amodau a dulliau gwaith penodol ar waith. Mae'n bosib y bydd yn ofynnol darparu mesurau lliniaru, yn enwedig yn achos datblygiadau, e.e. lle caiff gwalau eu symud. Fel arfer, mae'n ofynnol darparu gwalau newydd os caiff rhai eu colli.

Mwy o Wybodaeth: