Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Yn 2013, llofnododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a nifer o bartneriaid Gyfamod Cymunedol â'r nod o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae'r cyfamod yn addewid ar y cyd y byddwn yn cydnabod ac yn deall bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd yn cael eu trin â pharch a thegwch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfamod ar gael ar wefan swyddogol Cyfamod y Lluoedd Arfog a gwefan Lluoedd Arfog WLGA.  Diben yr arolwg hwn yw helpu Cyfamod Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot i benderfynu ar sut i gyflwyno gwasanaethau i gyn-filwyr yn y dyfodol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i adael manylion personol wrth ymgymryd â'r arolwg hwn.

Os ydych yn penderfynu gwneud hynny er mwyn cael mwy o wybodaeth am gyfamod y lluoedd arfog, byddwn yn trin eich manylion yn gwbl gyfrinachol.

Bulldogs BCA - Gwasanaeth galw heibio amlasiantaeth ar draws de Cymru i bobl sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01639 820103 neu 07812000336 neu hoffwch y dudalen Facebook, Bulldogs BCA.

Cymru'n Cofio 1914-1918 Y Rhyfel Byd Cyntaf  Mae'r safle hwn yn darparu newyddion, gweithgareddau a gwybodaeth ar goffâd y canmlwyddiant yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfamod hefyd ar gael ar y gwefannau canlynol: