Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Ar 24 Mehefin 2013 llofnododd y Cyngor a nifer o bartneriaid Gyfamod sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Bydd hyn yn ysbrydoli mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r materion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog yn y fwrdeistref sirol.

Mae gan y cyngor ddau Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Wyndham Griffiths a'r Cynghorydd Tim Bowen. 

​Mae Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog yn helpu​ i godi proffil cymuned y Lluoedd Arfog ac yn ymdrechu i gyflawni dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth well o'r problemau sy'n effeithio arni. Bydd yn gweithredu fel eiriolwr ar ei rhan ac yn ceisio sicrhau bod ei buddiannau yn cael eu hystyried yn briodol gan y cyngor ac yn cael eu blaenoriaethu ym mholisïau a strategaethau'r cyngor.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cyfamod neu am wasanaethau lleol i bersonél y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr, e-bostiwch yr Uned Strategaethau Corfforaethol