Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyfle cyfartal mewn cyflogaeth

Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i'r egwyddor o gyfle cyfartal mewn cyflogaeth. 

Polisi'r Awdurdod yw na fydd unrhyw ymgeisydd am swydd nac unrhyw weithiwr yn derbyn driniaeth llai ffafriol nag un arall ar sail rhyw / newid rhyw, oedran, anabledd, hil, iaith (Cymraeg), lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol, cyfrifoldeb am ddibynyddion , statws priodas, rhywioldeb, statws HIV neu Aids, gweithgaredd undeb llafur neu grefydd / cred a dim un yn cael ei rhoi dan anfantais o ganlyniad darpariaethau, maen prawf neu arferion na ellir eu cyfiawnhau.

Fel prif cyflogwr, mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i ddileu gwahaniaethu ac i unioni anghydbwysedd blaenorol er mwyn darparu cyfle cyfartal go iawn.